Yr actor byd-enwog Stanley Tucci yn ymweld â thafarn boblogaidd yng Nghaernarfon
Mae'r actor a'r cyflwynydd teledu byd-enwog Stanley Tucci wedi ymweld â thafarn boblogaidd yng Nghaernarfon dros y penwythnos.
Dywedodd perchennog Bar Bach yn y dref fod seren y ffilmiau The Devil Wears Prada a The Hunger Games yn "ŵr bonheddig hynod annwyl".
"Mae wedi bod yn fraint cael unigolyn mor hoffus i alw heibio," meddai'r perchennog wrth gyhoeddi llun o staff y dafarn gyda Tucci ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Ymdrechu i roi ei amser a'i sylw i bawb."
Y gred yw bod Tucci wedi ymweld â'r dafarn tra'n ffilmio'r gyfres ddiweddaraf o'i raglen am deithio a bwyd.
Mae'r actor 65 oed wedi bod yn ffilmio cyfres deledu ar gyfer National Geographic, sy'n cael ei dangos ar Disney+, mewn lleoliadau ledled y DU.
Mae'r gyfres yn dilyn Tucci in Italy, lle bu'r actor yn teithio ar draws yr Eidal i archwilio diwylliant, bwyd a hanes gwahanol rannau o'r wlad.
Tucci On Great Britain fydd ei "antur goginio nesaf", meddai wrth ei ddilynwyr ar Instagram ym mis Mehefin.
Mae'r actor hefyd wedi ymweld â stondinau bwyd ym Marchnad Caerdydd, lle bu'n blasu cacennau cri.
Llun: Bar Bach, Caernarfon