Achub perchennog a’i gi o gwch oedd yn suddo ger pier Bangor
Llwyddodd yr RNLI i achub perchennog cwch a’i gi o gwch oedd yn suddo ar y Fenai.
Dywedodd RNLI Biwmares eu bod nhw wedi derbyn galwad gan Wylwyr y Glannau toc cyn 16.00 ddydd Llun yn dweud bod cwch yn suddo ger Pier Bangor.
Erbyn iddyn nhw gyrraedd, roedd y cwch yn sownd ar greigiau ger Penrhyn Safnas ar ochr Ynys Môn o’r Fenai.
Yn ogystal â gwirfoddolwyr o Fiwmares, roedd bad achub yr RNLI o Foelfre a hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau hefyd wedi cael eu hanfon i’r ardal.
“Yn anffodus, oherwydd y difrod i’r cwch, nid oedd yn ymarferol nac yn ddiogel ceisio ei dynnu oddi ar y creigiau,” meddai llefarydd ar ran RNLI Biwmares.
“Yn anffodus, nid oedd yn bosib achub y cwch y tro hwn, ond roedd y bad achub yn gallu sicrhau diogelwch y rhai oedd ar ei fwrdd.
“Fe wnaeth ein criw fynd â pherchennog y cwch a’i gi ar fwrdd y bad achub a mynd â nhw at dîm symudol Gwylwyr y Glannau Bangor ar Bier Biwmares.
“Mae’r cwch wedi cael ei adfer ers hynny.”