Achos dau ddyn oedd wedi'u cyhuddo o lofruddio Ian Watkins wedi dymchwel
Mae'r achos cyfreithiol yn erbyn dau ddyn oedd wedi’u cyhuddo o lofruddio’r pedoffeil Ian Watkins wedi dymchwel.
Bu farw cyn brif leisydd y band Lostprophets o Bontypridd wedi ymosodiad yn ei gell yng ngharchar HMP Wakefield ar 11 Hydref y llynedd.
Roedd y carcharorion Rico Gedel, 25 oed, a Samuel Dodsworth, 44 oed, wedi gwadu ei lofruddio a bod â chyllell yn eu meddiant yn y carchar.
Ddydd Gwener, dywedodd y barnwr Mr Ustus Hilliard y byddai’r rheithgor yn cael ei ddiddymu am resymau cyfreithiol.
“Mae’n ddrwg gen i ddweud fod yn rhaid i mi eich rhyddhau a bydd yn rhaid ail-gynnal yr achos.
“Mae hynny’n siomedig i chi ac i bawb.”
Cafodd Ian Watkins ei garcharu am 29 mlynedd ym mis Rhagfyr 2013, gyda chwe blynedd arall ar drwydded, ar ôl cyfaddef cyfres o droseddau rhyw, gan gynnwys ceisio treisio babi.