Abi Tierney yn gwrthod galwadau i ymddiswyddo wrth i argyfwng rygbi Cymru ddwysáu 

ITV Cymru
Abi Tierney

Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, wedi gwrthod galwadau cynyddol iddi ymddiswyddo, wrth iddi amddiffyn y penderfyniad dadleuol i gael gwared ar un o bedwar tîm rhanbarthol Cymru.

Daw hyn wrth i gyn-ganolwr Cymru, Tom Shanklin, ddod y diweddaraf o blith ffigyrau amlwg y gêm i alw am newid yn uwch-reolaeth Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Shanklin wrth ITV fod ganddo “ddim hyder o gwbl” yn yr arweinyddiaeth a’i fod o’r farn bod angen “newid llwyr”.

“Mae’r targedau’n newid dro ar ôl tro," meddai. "Does dim tryloywder, does dim ymddiriedaeth. 

“Dwi’n credu bod rhaid i’r bwrdd cyfan ymddiswyddo. Os ydym am symud ymlaen a chael gweledigaeth newydd ar gyfer rygbi Cymru, rhaid cael newid llwyr. Ac mae hynny'n dechrau ar y brig,” meddai. 

Mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi cadarnhau ei fwriad i leihau nifer y rhanbarthau proffesiynol o bedwar i dri erbyn 2028. 

Byddai’r cynlluniau hyn yn golygu cael un rhanbarth yn y brifddinas, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.

Mae disgwyl i Rygbi Caerdydd a’r Dreigiau gael trwyddedau i barhau fel timau rhanbarthol proffesiynol. Byddai hynny’n gadael y Gweilch a’r Scarlets i gystadlu am y drydedd drwydded. 

Yn ôl yr Undeb, bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd tymor 2026/27.

Mae’r cynllun hwn wedi bod yn ddadleuol, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf mae’r pwysau ar arweinyddiaeth rygbi Cymru wedi cynyddu’n sylweddol. 

Mae cyn-gapten Cymru, Jonathan Davies, wedi galw ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru i gamu o'r neilltu, ac mae Hayley Parsons, sylfaenydd y cwmni Go.Compare a chyn-aelod o fwrdd Rygbi Caerdydd, hefyd wedi galw am newid llwyr ar y brig. 

Image
Taine Plumtree a Sam Costelow yw dau chwaraewr sydd wedi elwa o'r cynllun
Ai y Scarlets neu'r Gweilch fydd yn wynebu'r fwyell?

‘Pryder’

Dywedodd Ms Parsons yr wythnos diwethaf fod ganddi ddigon o gefnogaeth gan glybiau cymunedol i orfodi cyfarfod cyffredinol arbennig, mewn ymgais i ddisodli’r bwrdd. 

Wrth siarad ag ITV, gwrthododd Tierney y galwadau hyn ac amddiffyn ei safle. 

“Dwi’n deall bod pobl yn bryderus,” meddai, “ond dwi ddim yn meddwl mai’r peth cywir fyddai i’r bwrdd ymddiswyddo.

“Rydym yn wynebu heriau strwythurol sylweddol yn rygbi Cymru. Bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd.”

Wrth drafod cynlluniau i leihau nifer y timau rhanbarthol o bedwar i dri, mynnodd Tierney fod y rhesymeg wastad wedi bod yn seiliedig ar gyllid a pherfformiad.

Dywedodd Tierney fod gan yr Undeb tua £30m ar gael i'w ailddosbarthu bob blwyddyn, gyda thua £10m yn mynd tuag at y tîm cenedlaethol, llwybrau chwaraewyr a'r gêm gymunedol, a thua £20m ar gyfer y timau proffesiynol.

Yn ôl Tierney, nid yw’r swm hwn yn ddigon i gynnal pedwar tîm rhanbarthol proffesiynol. 

“Gallwn ni gael pedwar tîm os ydych chi eisiau cael pedwar tîm,” meddai. “Ond ni allwn ni gael pedwar tîm cystadleuol.”

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi wynebu cwestiynau am yr effaith y byddai dileu tîm proffesiynol yn y de-orllewin yn ei chael ar gyfranogiad mewn rygbi yn yr ardal. 

Dywedodd Tierney fod yr Undeb wedi ystyried yr effaith y gallai’r cynlluniau hyn ei chael. Ond dywedodd nad oedd yr Undeb yn credu y byddai cyfranogiad yn gostwng, oherwydd y byddai cynyddu’r buddsoddiad mewn rygbi cymunedol yn lliniaru’r effaith.

Mae Tom Shanklin yn anghytuno. 

Er ei fod wedi dadlau’n flaenorol y gallai rygbi Cymru fod yn gryfach pe bai llai o dimau proffesiynol, mae’n dweud bellach ei fod yn poeni y bydd hyn yn cyfyngu ar gyfleoedd i chwaraewyr ifanc ddatblygu.

“Dydw i ddim yn credu y bydd uno pedwar tîm yn ddau neu dri yn ein gwneud ni'n hynod gystadleuol yn sydyn,” meddai.

“Yr hyn a fydd yn ein gwneud ni'n gystadleuol yw cael y llwybr cywir, a chael pedwar llwybr ar gyfer y bobl ifanc hyn.

“Drwy leihau nifer y timau o bedwar i dri neu ddau, rydych chi'n cyfyngu ar yr amser chwarae sydd ar gael i bobl ifanc.”

‘Y peth iawn i’w wneud’

Er gwaethaf yr heriau a’r dadleuon y mae Tierney wedi eu hwynebu fel prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, mae hi**’n dal** i gredu mai hi yw’r person cywir i arwain rygbi yng Nghymru. 

“Dydw i ddim yn gwneud hyn er mwyn bod yn boblogaidd," meddai.

"Rwy’n ei wneud oherwydd fy mod i’n credu’n llwyr, ar sail yr holl dystiolaeth, mai dyma’r peth iawn i’w wneud ar gyfer rygbi Cymru.”

Dywedodd Tierney na chafwyd hyd i unrhyw ddewis arall credadwy, a dadleuodd y byddai unrhyw un a fyddai’n cymryd ei lle yn wynebu’r un problemau strwythurol.

Pan ofynnwyd iddi a oedd yr Undeb wedi gwneud camgymeriadau dros y 12 mis diwethaf, mae Tierney yn cydnabod fod gwersi i’w dysgu.

“Pan fo pethau’n anodd a’r neges yn anodd, rwy’n credu bod rhaid i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl am y rhesymau dros y penderfyniad,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.