Aberystwyth: Dyn yn ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ei gyn-bartner

a44 capel bangor.jpg

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ei gyn-bartner yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A44 ger Capel Bangor, Aberystwyth. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 20.50 nos Fawrth 30 Mehefin.

Ymddangosodd Owen Rhys-Jones, 24 oed, yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio, gyrru yn beryglus ac ymddygiad rheolaethol neu orfodol.

Ni wnaeth Rhys-Jones, o Aberystwyth, gyflwyno ple yn ystod y gwrandawiad byr, a siaradodd i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yn unig.

Clywodd y llys fod Rhys-Jones wedi'i gyhuddo o achosi'r gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A44 ger Capel Bangor yn fwriadol mewn ymgais i ladd ei gyn-bartner Jessica MacLean. 

Dywedodd Simone Walsh ar ran yr erlyniad: "Achos y goron yw fod y diffynnydd wedi gyrru cerbyd oedd yn symud yn fwriadol i fewn i bolyn telegraff BT."

Mae Rhys-Jones yn parhau yn y ddalfa. 

Dywedodd yr Ynad Taha Idris: "Dim ond yn Llys y Goron y mae modd i'r achos yma gael ei gynnal. 

"Fe fyddwn yn anfon yr achos i Lys y Goron ar 3 Awst. Yn y cyfamser, byddwch yn parhau yn y ddalfa."

Mae’r heddlu’n parhau i apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ac sydd â gwybodaeth, neu a welodd y digwyddiad, i gysylltu â nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.