Aberystwyth: Dyn 24 oed wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad

a44 capel bangor.jpg

Mae dyn 24 oed wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A44 ger Capel Bangor, Aberystwyth.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 20.50 nos Fawrth 30 Mehefin.

Mae Owen Rhys-Jones o Ddôl-y-bont, Aberystwyth, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio, gyrru’n beryglus ac ymddygiad rheolaethol neu orfodol.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa cyn ymddangos gerbron llys.

Roedd wedi cael ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad, wrth i Heddlu Dyfed-Powys gychwyn ymchwiliad ac apelio am dystion.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ac sydd â gwybodaeth, neu a welodd y digwyddiad, i gysylltu.

Mae swyddogion hefyd eisiau clywed gan unrhyw un a welodd aflonyddwch yng Nghapel Bangor neu’r cyffiniau tua 20.50 nos Fawrth.

Maent yn gofyn i unrhyw un sydd â lluniau ffôn, fideo neu gamera dangosfwrdd o’r aflonyddwch gyflwyno’r deunydd drwy borth penodol yr heddlu.

Diolchodd Heddlu Dyfed-Powys i’r gymuned leol am eu cefnogaeth wrth i swyddogion gynnal ymholiadau helaeth, ac i bawb sydd wedi cynorthwyo’r ymchwiliad hyd yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.