Aberystwyth: Arestio dyn 24 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio
Mae dyn 24 wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngheredigion nos Fawrth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn apelio am dystion yn dilyn y gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A44 ger Capel Bangor, Aberystwyth, am tua 20:50 nos Fawrth.
Mae'r dyn hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drais domestig ac o yrru yn beryglus, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Ychwanegodd yr heddlu fod ymholiadau yn parhau, ac fe fydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.
Fel rhan o'r ymchwiliad, mae'r llu hefyd yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar eu gwefan.
Mae'r llu yn dymuno siarad ag unrhyw un a glywodd aflonyddwch yn neu ger Capel Bangor am tua 20:50 nos Fawrth, neu unrhyw un oedd yn bresennol ar yr A44 ger Capel Bangor.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20260630-390.
