Abertawe: Gwasanaethau brys yn ymateb i dân yn y ddinas
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i dân yn Abertawe ddydd Sadwrn.
Fe gafodd mwg ei weld yn codi o leoliad ger garej llogi ceir Enterprise ar Heol Dyfatty ger yr orsaf drên yn y ddinas.
Yn ôl adroddiadau, cafodd sŵn ffrwydradau ei glywed yn dod o ardal y tân.
Roedd sawl injan dân wedi mynychu'r digwyddiad yn ogystal â'r heddlu.
Nid oes unrhyw adroddiadau am anafiadau ar hyn o bryd.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am ymateb.