Abertawe: Gohirio agor lido poblogaidd wedi i ladron ddwyn offer dyfrio
Mae Cyngor Abertwe wedi gorfod gohirio ailagor lido poblogaidd yn y ddinas wedi i ladron ddwyn offer dyfrio, neu 'sprinklers' dŵr, oedd ar y safle.
Cafodd y chwistrellwyr eu dwyn o'r safle ddydd Mercher, a'r gobaith yn wreiddiol oedd ailagor y lido dydd Sadwrn, ond bellach mae hyn wedi newid.
Mae cyngor y ddinas yn annog unrhyw un a allai helpu i'w darganfod i gysylltu â'r heddlu.
Dywedodd arweinydd y cyngor Rob Stewart mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol: "Rydym yn gwirio lluniau teledu cylch cyfyng i weld a allant ein helpu i adnabod y lladron.
"Mae'r chwistrellwyr yn unigryw ac mae'r ddau mwyaf yn eithaf trwm. Byddai'r ddau wedi gorfod cael eu codi i fan neu gerbyd mwy felly mae'n eithaf posibl y byddai rhywun wedi'i weld yn digwydd.
"Mae Lido Blackpill yn un o atyniadau awyr agored am ddim mwyaf poblogaidd Abertawe yn ystod misoedd yr haf ac roedd i fod i agor ar gyfer yr haf ddydd Sadwrn."
Ychwanegodd y Cynghorydd Stewart: "Mae'r heddlu wedi cael gwybod yn dilyn y lladrad ddydd Mercher am y chwistrellwyr dŵr y'n helpu i gadw ymwelwyr â'r lido yn oer yn yr heulwen. Ac er ein bod yn gweithio ar ddewisiadau eraill i geisio cael y lido ar waith yn ddiogel cyn gynted â phosibl, nid yw'n debygol o agor am o leiaf wythnos arall.
"Mae camau bellach yn cael eu cymryd gan dimau'r cyngor i greu atgyweiriad dros dro ar gyfer y tyllau lle dylai'r chwistrellwyr fod fel y gall plant a'u teuluoedd ddefnyddio'r lido yn ddiogel.
"Pan fydd hynny wedi'i gwblhau, gall tîm y lido ddechrau llenwi ardal y pwll, sy'n cymryd hyd at dri diwrnod.
"Rydym yn siomedig ac yn flin bod hyn wedi digwydd a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni drefnu atgyweiriad a fydd yn caniatáu inni agor y lido yn ddiogel cyn gynted â phosib."
Llun: Visit Swansea
