Abertawe 'eisiau ceisio dangos mai nhw yw'r 'tîm gorau yng Nghymru' yn erbyn Wrecsam

Abertawe 'eisiau ceisio dangos mai nhw yw'r 'tîm gorau yng Nghymru' yn erbyn Wrecsam

Mae CPD Abertawe "eisiau ceisio dangos mai nhw yw'r tîm gorau yng Nghymru" pan fyddan nhw'n wynebu Wrecsam nos Sadwrn, meddai golwr y clwb Laurence Vigouroux.

Bydd Wrecsam yn teithio i Stadiwm Swansea.com i wynebu'r Elyrch am 20:00 nos Sadwrn.

Bydd y ddau dîm yn dechrau'r gêm ar ôl ennill eu gemau yn ystod yr wythnos, gydag Abertawe wedi ennill 2-0 yn erbyn Watford a Wrecsam wedi sicrhau buddugoliaeth o 3-0 oddi cartref yn erbyn Millwall.

Yr Elyrch sydd ar frig y gynghrair ar hyn o bryd ar ôl ennill tair a chael un gêm gyfartal, tra bod y Dreigiau yn yr 11eg safle.

Y llynedd, enillodd Abertawe y gêm hon yn SA1, a Wrecsam oedd yn fuddugol ar Stok Cae Ras.

Wrth siarad cyn y gêm nos Sadwrn, dywedodd golwr Abertawe, Laurence Vigouroux, fod yr Elyrch "eisiau dangos mai nhw yw'r tîm gorau yng Nghymru".

"Wrth gwrs, y prif gêm ddarbi yw Caerdydd - dyna'r gêm mae pawb yn llygadu pan mae'r gemau yn cael eu cyhoeddi.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r ornest gyda Wrecsam wedi dechrau datblygu. Mae'r awyrgylch yng ngêm Caerdydd yn wallgof, mae hon ychydig yn llai ond mae hi yn dal i fod yn gêm fawr.

"Mae'n gogledd yn erbyn y de, ac rydym yn edrych ymlaen at geisio dangos i bawb mai ni yw'r tîm gorau yng Nghymru."

Image
Callum Doyle yn dathlu sgorio yn erbyn Abertawe y llynedd. Llun: Asiantaeth Huw Evans
Callum Doyle yn dathlu ar ôl sgorio ym muddugoliaeth Wrecsam o 2-0 yn erbyn Abertawe fis Mawrth. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Enillodd Wrecsam 3-0 yn erbyn Millwall nos Fercher, eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair eleni.

Ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo, arwyddodd Joe Worrall a Callum O'Hare i'r clwb.

Hyder

Mae rheolwr y Dreigiau, Phil Parkinson, yn credu bod ei garfan yn hyderus ar ôl eu buddugoliaeth nos Fercher.

"Rydym yn edrych fel tîm mwy medrus y tro hwn. Mae'r chwaraewyr wedi dod i'r arfer â lefel y Bencampwriaeth ac wrth gwrs, rydym wedi ychwanegu chwaraewyr o ansawdd i'r garfan," meddai.

"Bydd cefnogwyr Abertawe yn teimlo'n dda ar ôl eu dechrau da i'r tymor, ond rydym yn gwybod beth sy'n rhaid i ni ei wneud.

"Cafodd y chwaraewyr gyfarfod gwych fore Gwener, a nawr ein dyletswydd ni yw cyflawni'r hyn rydym wedi ei drafod a gweithio arno ar y cae ymarfer.

"Yn amlwg maen nhw'n hyderus, ond rydym ni'n hyderus hefyd ar ôl y fuddugoliaeth ym Millwall a byddwn ni'n cymryd y perfformiad hwnnw i'r gêm hon."

'Pob tîm yn wahanol'

Mae Laurence Vigouroux yn cydnabod y bydd Wrecsam yn her wahanol i'r clybiau maen nhw wedi'u hwynebu hyd yma.

"Rydym yn gwybod beth maen nhw'n gallu ei wneud," meddai, gan gyfeirio at gryfder corfforol a gallu Wrecsam o giciau gosod.

"Os yw hi'n agored, mae gennym y cyfle i wneud yr hyn rydym wedi ei ddangos yn y Bencampwriaeth hyd yma.

"Mae pob gêm yn wahanol, mae pob tîm yn teithio i fan hyn gyda chynlluniau gwahanol ac mae rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o rwystro hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.