Aberdaugleddau: Ysgol Gynradd Gymraeg newydd gam yn nes

Aberdaugleddau

Mae Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio dros gefnogi'r egwyddor o sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn nhref Aberdaugleddau.

Fe ddaeth y bleidlais mewn cyfarfod o'r cyngor yn Hwlffordd fore dydd Iau.

Mae dwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg eisioes wedi agor yn ne’r sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Fe agorodd Ysgol Hafan y Môr yn Ninbych y Pysgod yn 2016 ac Ysgol Bro Penfro yn nhref Penfro ym mis Medi 2024. 

Mae Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd, sydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion rhwng 3-16 oed, eisioes dros ei chapasiti swyddogol yn yr adran gynradd. 

Aberdaugleddau yw tref fwyaf Sir Benfro, ac mae rhyw 15,000 yn byw yn yr ardal. 

Mae llai na 10% yn siarad Cymraeg yn y wardiau sydd yn rhan o’r dref.  

Ym mhapurau’r cyngor, fe nodwyd bod disgwyl i niferoedd Ysgol Bro Penfro gynyddu o 125 i 172 erbyn 2033. 

Mae Ysgol Hafan y Môr hefyd wedi tyfu yn sylweddol ers ei hagor. 

Mae 121 o ddisgyblion o ddalgylch Aberdaugleddau yn mynychu adran gynradd Caer Elen ar hyn o bryd.  

Roedd 51 o gynghorwyr o blaid y cynnig gydag un yn atal ei pleidlais.

Mae gan yr actores a’r dramodydd Ceri Ashe fab, Osian, sy'n ddwy oed, ac mae hi’n byw yn Aberdaugleddau. 

Mae hi’n dweud ei bod hi’n heriol, ar hyn o bryd, i anfon plant i ysgol cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd:“Yr ysgol agosaf yw yn Hwlffordd. Yn y bore, gyda rush hour mae’n cymryd bwyti 45 munud efallai hyd yn oed awr i gyrraedd, neu os chi’n fodlon gyrru, mae Bro Penfro o leia hanner awr o yrru.” 

Image
Ceri Ashe
Mae Ceri yn annog ei mab Osian i siarad Cymraeg a Saesneg

Yn ôl Ceri, mae agweddau tuag at y Gymraeg mewn ardal a ddisgrifiwyd ar un adeg fel Little England Beyond Wales, yn newid.

Ychwanegodd: “Fi wedi byw yma ers 3 mlynedd a dw i yn gweld bod agweddau pobl yn newid. 

"Fi’n siarad Cymraeg i Osian. Dw i yn hybu fe i fod yn ddwyieithog. 

"We ni yn siarad Cymraeg 'da fe yn Tesco a fe wnaeth y fenyw ar y till ddweud 'Dw i yn dysgu'ó

"Mae’n neis clywed e a ti’n gweld agweddau pobl yn newid.” 

Mae Ceri yn dweud bod llwyddiant Ysgol Caer Elen yn brawf bod yna alw am addysg Gymraeg yn ne Penfro. 

"Dw i yn meddwl bod Caer Elen yn symbol fod pobl eisiau anfon eu plant nhw nawr," meddai.

"Os chi’n cael plant yn dysgu trwy’r Gymraeg, yn chwarae yn yr iard a falle tu fas yr ysgol, dw i yn meddwl bod hwnna yn hollbwysig."

Cwestiynau

Yn ôl Cyngor Sir Benfro, mi fyddai agor ysgol gynradd Gymraeg 3-11 yn Aberdaugleddau'n diwallu'r galw cynyddol ac yn caniatau ail-lunio'r ffiniau ar gyfer dalgylchoedd.

Mae’n rhan o gynllun ehangach gwerth £143m i ail-ddatblygu ysgolion yn ardal Aberdaugleddau.  

Y bwriad yw darparu lle ar gyfer 210 o ddisgyblion. 

Unwaith eto, fe gododd y Cynghorydd Paul Miller, aelod o gabinet y cyngor Sir, gwestiynau am y penderfyniad i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ne'r sir. 

Yn ôl y cynghorydd Miller, doedd y ffaith bod rhieni yn dewis anfon eu plant i Ysgol Caer Elen ar hyn o bryd ddim yn dystiolaeth gadarn i gefnogi’r syniad bod yna alw am sefydlu ysgol Gymraeg yn Aberdaugleddau.  

Fe fydd cynllun busnes amlinellol nawr yn cael ei gyflwyno i lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf.  

Bu rhieni a disgyblion Ysgol Clydau yn lobïo cynghorwyr wrth iddyn nhw gyrraedd y cyfarfod yn Hwlffordd fore dydd Iau. 

Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar 15 Mehefin ar gau’r ysgol fach ym mhentref Tegryn yng ngogledd y sir. 

Fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio o blaid cau’r ysgol, o un pleidlais yn unig nôl ym mis Mawrth. 

Dywedodd Angharad Scourfield sydd yn riant yn yr ysgol bod ymgyrchwyr yn dal i frwydro i newid meddyliau’r cynghorwyr: 

“Ni ‘ma i ddangos i'r cynghorwyr bod ni dal yma ac yn dal i ymladd i gadw Ysgol Clydau ar agor.'" meddai.

"Ni’n gobeithio bod y cynghorwyr yn medru gweld pwy mor bwysig yw’r ysgol yma i'r gymuned Gymraeg ‘ma.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.