Cychwyn ffilmio ail gyfres 'Welcome to Wrexham'
Cychwyn ffilmio ail gyfres 'Welcome to Wrexham'
Mae ffilmio eisoes wedi cychwyn ar ail gyfres "Welcome to Wrexham" yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf.
Mae'r gyfres yn dilyn taith Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ystod y tymor diwethaf, a'r hyn y mae'r perchnogion, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi ei ddysgu am redeg clwb pêl-droed yng Nghymru.
Yr iaith Gymraeg a Chymru oedd canolbwynt y bennod ddiweddaraf o’r rhaglen ‘Welcome to Wrexham’.
Prynodd y sêr Hollywood y clwb yn swyddogol ym mis Ionawr 2021, gan fuddsoddi £2m yn y clwb ym mis Hydref 2020.
Mae'r ddau hefyd wedi prynu'r Cae Ras ar ran y clwb oddi wrth Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Hefyd maent yn cynllunio i ddatblygu eisteddle'r Kop, gan ychwanegu 5,500 o seddi.
Mae pennod saith yn rhoi gwers Gymraeg a hanes Cymru i wylwyr ac yng ngeiriau Rob McElhenney mae hi’n “bennod arbennig iawn”.
Yn y bennod, mae’r awdur poblogaidd John Green yn mynd â’r ddau seren Hollywood ar daith hanesyddol drwy wreiddiau Cymru o Llewelyn ein Llyw Olaf ac Owain Glyndŵr i Derfysgoedd Rebeca a phwysigrwydd Dydd Gŵyl Dewi.
Un arall oedd yn serennu yn y bennod oedd Maxine Hughes. Mae'r newyddiadurwraig wedi bod yn rhan o daith Ryan Reynolds a Rob McElhenney gyda Wrecsam, gan gynnwys actio fel cyfieithydd mewn fideo digri yn cyhoeddi'r gyfres.
Dywedodd Maxine: "Dwi’n credu fod y rhaglen wedi neud lot o waith i hysbysebu'r wlad a’r iaith. Mae llawer iawn o Americanwyr wedi dweud eu bod nhw wedi dysgu mwy am Gymru.
"Faswn i ddim wedi dychmygu fod rhywbeth fel hyn wedi digwydd flwyddyn yn ôl.
"Mae ail gyfres yn cael ei ffilmio ar hyn o bryd mae’r criw yn Wrecsam yn barod. Da ni’n gobeithio gweld Wrecsam yn symud i fyny yn yr ail gyfres yma.
"Mae’r Americanwyr yn meddwl bod yr iaith yn cool iawn ac mae gan nifer ohonyn nhw gysylltiadau teuluol gyda’r wlad."