Ymchwiliad 'Beergate' wedi costio mwy na £100,000

CC
Fe wnaeth yr ymchwiliad i ddarganfod a oedd Syr Keir Starmer wedi torri rheolau Covid-19 gostio mwy na £100,000, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth.
Roedd arweinydd y blaid Lafur wedi ei weld yn yfed cwrw mewn swyddfa AS ym mis Ebrill 2021, gyda'r digwyddiad wedi ei alw'n "beergate" gan rannau o'r wasg.
Daeth yr heddlu i'r casgliad nad oedd Syr Keir, na'i ddirprwy Angela Rayner, wedi torri'r rheolau oedd mewn grym ar y pryd.
Mae'r cais rhyddid gwybodaeth gan National World yn dangos fod naw swyddog o Dîm Trosedd Difrifol Heddlu Durham wedi treulio tua 3,203 awr yn ymchwilio.
Darllenwch fwy yma.