Newyddion S4C

Ciw i weld arch y Frenhines yn ail-agor ond disgwyl i bobl giwio am fwy na 24 awr

16/09/2022
Ciw - Palas Westminster

Mae'r ciw i weld arch y Frenhines yn Llundain wedi ail-agor brynhawn Gwener, ond mae disgwyl i bobl giwio am fwy na 24 awr.

Roedd y ciw ar gau am sawl awr yn ystod dydd Gwener, golyga hyn fod y ciw i weld y Frenhines yn gorwedd yn gyhoeddus wedi cyrraedd 10 milltir o hyd sef yr hiraf y gall fod.

Cafodd arch y Frenhines ei gludo i Balas Westminster ddydd Iau lle bydd yn aros tan fore Llun, sef diwrnod ei hangladd.

Mae Network Rail wedi dweud eu bod yn disgwyl i wasanaethau rheilffyrdd i fod yn brysurach eto dros y penwythnos a dydd Llun wrth i fwy o bobl deithio i Lundain.

Mae gan y llywodraeth fideo byw sy'n nodi hyd y ciw a'r amser aros.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.