Newyddion S4C

Y sylwebydd rygbi Eddie Butler wedi marw

15/09/2022

Y sylwebydd rygbi Eddie Butler wedi marw

Mae'r sylwebydd chwaraeon, Eddie Butler, wedi marw yn 65 oed. 

Yn enedigol o Gasnewydd, fe astudiodd yng Ngholeg Fitzwilliam yng Nghaergrawnt cyn dilyn gyrfa lwyddianus fel chwaraewr rygbi a sylwebydd chwaraeon.

Roedd Eddie yn chwaraewr rygbi brwd gan chwarae fel wythwr i glwb Pont-y-pŵl ac fe chwaraeodd i dîm cyntaf Prifysgol Caergrawnt, cyn mynd ymlaen i fod yn gapten ar Gymru ar chwe achlysur yn ogystal â chael ei ddewis ar gyfer taith y Llewod yn Seland Newydd yn 1983, ac fe gafodd ei wahodd i chwarae gyda'r Barbariaid.

Er mwyn dilyn gyrfa yn y maes newyddiaduriaeth, roedd yn rhaid iddo roi diwedd ar ei yrfa fel chwaraewr rygbi.

Wedi iddo raddio, fe aeth ymlaen i weithio fel athro Ffrangeg yng Ngholeg Cheltenham cyn mynd ymlaen i weithio fel swyddog y Wasg a Chyhoeddusrwydd ar gyfer BBC Cymru Wales. 

Roedd wedi bod yn sylwebu ac yn cyflwyno ar gyfer y BBC, gyda teithiau'r Llewod, sawl Cwpan Rygbi'r Byd a'r Gemau Olympaidd yn rai o'r uchafbwyntiau. 

Roedd hefyd yn golofnydd cyson gyda'r Observer a'r Guardian.

Roedd yn ymgyrchydd brwd dros annibyniaeth i Gymru, ac roedd yn awdur dwy gyfrol am y byd rygbi.

Mae nifer wedi rhoi teyrnged iddo yn dilyn y newyddion. Mewn neges ar Twitter dywedodd cyn-gapten Cymru a'r Llewod, Sam Warburton bod ei feddyliau gyda theulu Butler a'i fod wedi bod yn fraint cael chwarae a chyd-sylwebu gydag ef.

Mewn datganiad dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod marwolaeth Butler wedi "siglo'r byd rygbi."

"Cynrychiolodd ei wlad fel chwaraewr gyda balchder ac mae wedi bod yn gynhyrchiol yn y modd y mae wedi gwasanaethu rygbi Cymru yn ysgrifenedig ac ar lafar dros ddegawdau."

Mewn neges ar Twitter dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Trist iawn clywed am farwolaeth Eddie.

"Roedd yn chwaraewr rygbi penigamp ac yn ddarlledwr talentog dros ben. Colled enfawr."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.