Prif Weinidog benywaidd gyntaf Sweden i ymddiswyddo ar ôl colli etholiad

Mae Prif Weinidog Sweden, Magdalena Andersson, yn derbyn iddi golli etholiad wrth i bleidiau'r asgell dde baratoi i ffurfio llywodraeth.
Mae llond llaw o bleidleisiau eto i'w cyfri, ond dywedodd Andersson fod y canlyniadau hyd yma yn dangos fod bloc y dde wedi ennill.
Cafodd Andersson ei hethol yn brif weinidog benywaidd gyntaf Sweden y llynedd.
Dywedodd mewn cynhadledd newyddion fod mwyafrif y dde yn un "tenau, ond mae'n fwyafrif".
Darllenwch fwy yma.