Gostyngiad bychan mewn chwyddiant ym mis Awst
Mae gostyngiad bychan wedi bod mewn chwyddiant yn ystod mis Awst - gyda'r gyfradd bellach yn 9.9%.
Roedd y gyfradd yn 10.1% flwyddyn ar flwyddyn ym mis Gorffennaf, ac yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol y cwymp bychan mewn pris petrol ag olew sydd yn gyfrifol am y gostyngiad.
Er bod y newyddion yn cynnig llygedyn o obaith i'r economi, mae chwyddiant yn parhau'n agos at fod ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd.
Mae'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn cael ei ddefnyddio i asesu chwyddiant - gyda'r Mynegai'n mesur y cynnydd mewn prisiau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau cyffredinol.
Ym mis Awst roedd y Mynegai yn dangos mai bwyd a diodydd di-alcohol a welodd y cynnydd mwyaf mewn chwyddiant.
Fe welwyd cynnydd flwyddyn ar flwyddyn o 13.1% mewn prisiau bwyd a diodydd di-alcohol yn ystod y 12 mis hyd at fis Awst - i fyny o 12.7% ym mis Gorffennaf.
Llaeth, caws ac wyau oedd y nwyddau oedd wedi codi mwyaf mewn pris dros y cyfnod rhwng Gorffennaf ac Awst yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.