Anthony Joshua yn derbyn cynnig Tyson Fury i ymladd yng Nghaerdydd
Mae Anthony Joshua wedi derbyn cynnig Tyson Fury i ymladd yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr.
Mae disgwyl i'r ornest baffio gael ei chynnal yn Stadiwm y Principality ar 3 Rhagfyr.
Y frwydr am deitl pencampwr y pwysau trwm fyddai un o'r digwyddiadau bocsio mwyaf yn y brifddinas yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Daw'r cynnig gan Fury, sy'n bencampwr WBC y byd, yn dilyn misoedd o ddyfalu am ei ddyfodol.
Yn dilyn ei fuddugoliaeth dros Dillian Whyte yn Stadiwm Wembley ym mis Ebrill, cyhoeddodd y 'Gypsy King' ei fydd yn ymddeol o focsio.
Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, galwodd Fury am ornest yn erbyn Oleksander Usyk, sydd ar hyn o bryd yn bencampwr WBO, IBF, a WBA y byd.
Ond ni fydd hi'n bosibl cynnal yr ornest honno tan 2023, ac felly mae Fury wedi troi ei sylw at Joshua, a gafodd ei drechu gan Usyk fis diwethaf.
Dyma fydd terfyn blynyddoedd o ffraeo rhwng Fury a Joshua, a oedd i fod i gwrdd yn y sgwâr bocsio y llynedd.
Yn dilyn cyhoeddiad Anthony Joshua ei fod wedi derbyn telerau'r ornest, dywedodd rheolwr Tyson Fury fod cytundeb yn cael ei baratoi.