Y Frenhines Elizabeth II: Trefniadau'r angladd
Bydd angladd gwladol y Frenhines yn cael ei gynnal ddydd Llun yn Abaty Westminster a bydd yn nodi diwedd cyfnod 10 diwrnod o alaru swyddogol.
Ond beth yn union ydy'r trefniadau?
Bydd arch y Frenhines yn cael ei chludo i Abaty Westminster ar gyfer yr angladd gwladol ddydd Llun, 19 Medi am 11:00.
Mae'r Brenin Charles III wedi cyhoeddi y bydd diwrnod yr angladd hefyd yn Ŵyl y Banc.
Mae'r abaty yn eglwys hanesyddol lle mae brenhinoedd a breninesau y Deyrnas Unedig wedi eu coroni, gan gynnwys coroni'r Frenhines Elizabeth yn 1953 a lle y gwnaeth hi a'r Tywysog Philip briodi yn 1947.
Gall angladd gwladol gynnwys cerbyd gwn a fyddai'n cludo'r arch rhwng lleoliadau gwahano. Bydd prif weinidogion ac arlywyddion byd yn bresennol yn yr abaty, sydd â lle i gynulleidfa o 2,000 o bobl.
Dim ond naw angladd gwladol sydd wedi ei gynnal ers 1901, gyda'r un diwethaf yn 1965 ar gyfer Winston Churchill.
Yn dilyn y traddodiad yn angladd y Dywysoges Diana yn ogystal â Dug Caeredin, y gred yw y bydd y teulu yn cerdded tu ôl i'r arch.
Wedi'r gwasanaeth, bydd arch y Frenhines yn cael ei chludo i Gapel San Siôr yng Nghastell Windsor. Y disgwyl yw y bydd yn cael ei chladdu yng Nghapel Coffa San Siôr lle mae ei rhieni wedi eu claddu yn ogystal â lludw ei chwaer, y Dywysoges Margaret.