Un o 'Dri Caerdydd' wedi marw

12/09/2022
Tony Paris

Mae Tony Paris, un o'r tri a gafodd eu cyhuddo ar gam o lofruddio Lynette White, wedi marw yn 65 oed. 

Cyhoeddodd ei ferch, Cassie, y newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol nos Sul gan ddweud ei fod "yn golygu'r byd" iddi ac "y byddai'n parhau i godi ymwybyddiaeth a brwydro dros y rheiny sy'n wynebu anghyfiawnder." 

Cafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller eu carcharu ar gam yn 1990 ar amheuaeth o lofruddio Lynette White yn ardal dociau Caerdydd yn 1998. 

Fe gafodd y llofrudd, Jeffrey Gafoor, ei ddedfrydu i oes yn y carchar yn 2003 wedi iddo gael ei ddal trwy ddefnyddio technoleg DNA.

Llun: Ceri Dawn Jackson

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.