Cynnal ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth yn Sir Gâr
10/09/2022
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 22 oed yn Rhydaman yn Sir Gâr.
Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Treforis yn ardal Betws o Rydaman am tua 20:50 nos Iau yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch.
Daeth yr heddlu o hyd i Cameron Lindley yno gydag anafiadau angheuol.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio dyn 19 oed yno ar amheuaeth o lofruddio ac mae e’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Mewn datganiad dywedodd teulu Cameron ei fod yn “ŵyr, mab, brawd ac ewythr annwyl.”
Mae’r teulu wedi gofyn am lonyddwch er mwyn delio gyda’u galar.
Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi’r teulu.