Newyddion S4C

Ieuenctid CND Cymru yn gorymdeithio yn erbyn datblygiadau niwclear

ITV Cymru 11/09/2022
CND Cymru

Mae aelodau o garfan ieuenctid CND Cymru wedi gorymdeithio o Orsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd yng Ngwynedd i orsaf bŵer Niwclear Wylfa yn Ynys Môn.

Bwriad yr orymdaith saith diwrnod oedd gwrthwynebu penderfyniad y llywodraeth yn San Steffan i leoli Adweithyddion Niwclear Modiwlaidd Bach (SMRs) yn y gorsafoedd hyn.

Dywed Llywodraeth y DU fod trefn rheoleiddio effeithiol mewn lle i sicrhau diogelwch.

Mewn adweithyddion SMR, mae plwtoniwm yn cael ei gynhyrchu tu mewn i graidd yr adweithydd. Mae’n bosib gwahanu’r plwtoniwm o’r tanwydd sy’n wastraff a’i ddefnyddio i wneud arfau niwclear medd CND. 

Yn ôl Dr Bethan Siân Jones, ysgrifennydd cenedlaethol CND Cymru, roedd yr orymdaith am resymau amgylcheddol, economaidd a heddychlon. Fe ymunodd hi gyda'r orymdaith yn ystod yr wythnos.

Dywedodd wrth ITV Cymru: “Yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae’r llywodraeth Dorïaidd wedi gamblo drwy roi £200 miliwn o flaen llaw i gwmni Rolls-Royce, sydd am gynllunio’r dechnoleg newydd hon.

“Maen nhw wedi gwneud hyn heb wybod faint yn union bydd yr SMRs yma yn costio yn y pen draw.

“Gan rwbio halen i mewn i’r briw, dim ond ar ôl 2030 bydd yr SMRs yma’n weithredol. Bydden nhw methu, felly, chwarae mewn i unrhyw rhan o gyflawni carbon net zero cyn 2050,” meddai. 

“Mae pob ceiniog sydd yn cael ei wastraffu yn arian sydd ddim yn cael ei wario ar dechnoleg sydd wedi’i brofi i weithio fel opsiynau carbon isel, adnewyddadwy megis ynni haul, gwynt a thonnau yn ogystal ag insiwleiddio tai.”

Mae llefarydd ar ran Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud nad ydyn nhw yn gallu gwneud unrhyw sylw yn ystod y cyfnod galaru wedi marwolaeth y Frenhhines Elizabeth II.

Dywedodd y llefarydd “nad oes penderfyniadau wedi cael eu gwneud eto ynglyn â lleoli SMRs yn y DU."

Maen nhw hefyd yn pwysleisio bod y DU gyda threfn rheoleiddio effeithiol. 

Maen nhw’n datgan bod “y DU yn arwain y ffordd wrth osod safonau rhyngwladol. Felly ni fyddai’r rheolyddion yn caniatáu i orsaf bŵer ynni niwclear gael ei datblygu neu ei gweithredu os nad yw hi’n ddiogel i wneud hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.