Cymru yn flaenllaw mewn cynhadledd ieithyddol ryngwladol
Cymru yn flaenllaw mewn cynhadledd ieithyddol ryngwladol
Mewn cynhadledd ryngwladol yng Ngwlad y Basg ddydd Mercher, bydd cyhoeddiad mai Comisiynydd y Gymraeg fydd yn gyfrifol am gadeiryddiaeth Cymdeithas Ryngwladol Y Comisiynwyr Iaith am y blynyddoedd nesaf.
Bydd y gymdeithas yn cynnal eu cynhadledd gyntaf ers y pandemig ac yn ceisio penderfynu ar sut i amddiffyn hawliau ieithyddol, gyda Chymru yn chwarae rhan flaenllaw.
Cymru bydd cartref y gynhadledd nesaf mewn dwy flynedd, ac yn ôl Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price, bydd cynnal y gynhadledd yn "gyfle i roi sylw i Gomisiynydd y Gymraeg.
"Mae o am neud gwahaniaeth mawr dwi'n meddwl, i ni fel sefydliad," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae o mynd i roi sylw i rôl Comisiynydd y Gymraeg, ond mae'n gyfrifoldeb hefyd am arwain y comisiynwyr ar raddfa ryngwladol. Mi fydd yn bwysig iawn bod ni'n gallu croesawu comisiynwyr iaith o bob math o wledydd i weld be 'da ni'n 'neud yma dros yr iaith."
Bwriad Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith ydy cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol yn rhyngwladol yn ogystal â chynnig cefnogaeth i Gomisiynwyr Iaith er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cadw at y safonau proffesiynol uchaf.
Bydd Cymru yn ganolog i drafodaethau sy'n trafod yr heriau mae Comisiynwyr Iaith yn wynebu yn ogystal â chymharu sut mae eraill, o Wlad y Basg i Fflandrys i Ganada, yn delio â'r heriau hyn.
Bydd trafodaeth hefyd yn dadansoddi effaith y pandemig ar ieithoedd swyddogol a lleiafrifol a'r effaith ar addysg a dewisiadau rhieni wrth ystyried addysg trochi i'w plant.