Dim asesiad amgylcheddol ar gyfer gorsaf dŵr gwastraff ddadleuol yng Nghaerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu na fydd yn rhaid cynnal asesiad amgylcheddol ar gyfer cynlluniau i adeiladu gorsaf dŵr gwastraff mewn parc yng Nghaerdydd.
Mae yna gynlluniau i adeiladu'r orsaf pwmpio carthffosiaeth ym Mharc Hailey yng ngogledd y ddinas, yn rhan o ddatblygiad tai newydd gerllaw.
Mae trigolion Ystum Taf eisoes wedi mynegi pryder am y cynlluniau, ac effaith bosib y datblygiad ar y parc a'r ardal leol.
Mae'r cyngor yn dweud nad oes rhaid gwneud asesiad o'r effeithiau posib ar yr amgylchedd ar gyfer y datblygiad hwn
Yn ôl y cyngor, dyw'r darn o dir o dan sylw, ddim yn rhan o ardal "sensitif."
Darllenwch fwy yma.