Y DU 'i wynebu dirwasgiad eleni' medd Siambr Fasnach Prydain
Bydd y Deyrnas Unedig yn 'wynebu dirwasgiad eleni', yn ôl Siambr Fasnach Prydain.
Yn yr adroddiad, mae'n rhybuddio hefyd y gallai chwyddiant gynyddu i 14% ac nad oes disgwyl unrhyw gynnydd arwyddocaol yn yr economi nes 2024.
Er hyn, mae'r Siambr yn rhagweld y bydd yr economi yn tyfu ychydig yn 2023 o 0.2%, gan gynyddu i 1% erbyn 2024.
Daw hyn yn sgil yr argyfwng costau byw yn ogystal â'r ymateb rhyngwladol i'r pandemig a'r rhyfel yn Wcráin.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y bydd diweithra yn codi i 4.1% yn 2023 a 2024, ond y bydd disgwyl i chwyddiant leihau i darged Banc Lloegr o 2% erbyn 2024.
Dywedodd Pennaeth Polisïau Siambr Fasnach Prydain, Alex Veitch, y dylai'r "heriau hyn fod ar dop y rhestr ar gyfer y Prif Weinidog nesaf".
"Mae chwyddiant allan o reolaeth ar hyn o bryd, ac nid yn unig y mae'n effeithio ar y gost o wneud busnes, ond hefyd ar allu rhai cwmnïau i gadw eu drysau ar agor," meddai.