Newyddion S4C

Llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel: Rhyddhau lluniau cylch cyfyng o ddyn yn ffoi

01/09/2022

Llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel: Rhyddhau lluniau cylch cyfyng o ddyn yn ffoi

Mae Heddlu Glannau Mersi wedi rhyddhau lluniau cylch cyfyng o ddyn yn ffoi o leoliad llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel yn ardal Dovecot o Lerpwl ar 22 Awst.

Dywed yr heddlu fod dau ddryll wedi eu defnyddio yn ystod y llofruddiaeth, ac mae swyddogion yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.

Bu farw'r ferch naw oed ar ôl cael ei saethu yn ei chartref wedi i ddyn redeg i mewn drwy'r drws tra'n rhedeg ar ôl dyn arall.

Cafodd mam Olivia, Cheryl Korbel, a dyn arall eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Mae dau ddyn o Lerpwl oedd wedi eu arestio fel rhan o'r ymchwiliad wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ond yn parhau dan ymchwiliad yr heddlu.

Roedd y dyn sydd yn cael ei amau o lofruddio Olivia ac sydd yn ymddangos yn y lluniau cylch cyfyng yn gwisgo siaced ddu, mwgwd balaclafa du gyda phig gwyn, menyg du a sgidiau rhedeg du gyda sodlau gwyn.

Cafodd ei ddisgrifio gan yr heddlu fel dyn tenau 5'7 mewn taldra.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.