Yr athletwr Ben Gregory yn anadlu heb gymorth yn dilyn damwain beic
Mae athletwr Cymru, Ben Gregory, yn anadlu heb gymorth yn dilyn damwain beic ddifrifol ym mis Awst.
Roedd yr athlewr wedi bod mewn coma ers iddo dorri asgwrn yn ei benglog a'i wddf a dioddef sawl gwaedlif ar yr ymennydd.
Mewn diweddariad, dywedodd ei gariad, Naomi Heffernan, ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Iau bod "Ben wedi anadlu ar ben ei hun heb ddefnyddio peiriant heddiw."
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "tagu tipyn yn sgil y bibell ocsigen yn ei wddf felly bydd yn cael traceostomi wedi ei osod yn y diwrnodiau nesaf.
"Unwaith y bydd wedi ei osod, byddant yn cael gwared o'r draen a'r bollt yn ei ymennydd.
"Mae heddiw yn ddiwrnod da."
Roedd Ben Gregory wedi ennill sawl pencampwriaeth decathlon Cymru ac yn dal record Cymru am y gamp ac wedi cynrychioli Prydain.
Roedd wedi cynrychioli Cymru yng ngemau’r Gymanwlad yn 2010, 2014 a 2018. Fe enillodd ras y 1,500 yn y decathlon yn y gemau ar yr Arfordir Aur yn Awstralia yn 2018.