Newyddion S4C

Wrecsam yn derbyn statws dinas yn swyddogol

01/09/2022
WREXHAM / WRECSAM

Mae Wrecsam bellach yn ddinas swyddogol, ar ôl derbyn y teitl ddydd Iau.

Cafodd y statws ei roi fel rhan o ddathliadau jiwbilî Platinwm y Frenhines ym mis Mehefin.

Mae'n golygu mai Wrecsam yw seithfed dinas Cymru erbyn hyn.

I nodi'r newid mae Cyngor Wrecsam yn gobeithio creu "atyniad" newydd yng nghanol y dref.

Mae'r Cyngor wedi dweud bod y cynlluniau i greu "amgueddfa dwy ran" yn datblygu, a fydd yn cynnwys Amgueddfa Bêl-droed Cymru.

Cafodd mwy o ddinasoedd nag erioed eu creu eleni fel rhan o ddathliadau'r jiwbilî, gyda Bangor yng Ngogledd Iwerddon, Dunfermline yn Yr Alban, Douglas ar Ynys Manaw, Stanley ar Ynysoedd y Falklands, a Colchester, Doncaster a Milton Keynes yn Lloegr yn ymuno â Wrecsam.

Mae rhai o ddinasoedd eraill Cymru wedi derbyn eu statws dinas yn ystod dathliadau Jiwbilî'r gorffennol - Casnewydd yn 2002 a Llanelwy yn 2012.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.