Newyddion S4C

Cyn-gyflwynydd BBC Breakfast Bill Turnbull wedi marw

01/09/2022
Bill Turnbull

Mae cyn-gyflwynydd BBC Breakfast, Bill Turnbull, wedi marw yn 66 oed.

Roedd yn cyflwyno'r sioe frecwast ar BBC One am 15 mlynedd cyn symud i orsaf radio Classic FM.

Roedd hefyd wedi cyflwyno ar raglenni eraill gan gynnwys Good Morning Britain ar ITV a chymryd rhan yn Strictly Come Dancing a The Great British Bake Off.

Cafodd ddiagnosis o ganser y prostad yn 2018, ac fe ffilmiodd raglen ddogfen ar Channel 4 lle'r oedd yn archwilio i ddefnydd olew canabis ar gyfer pwrpasau meddygol.

Mae rhai o'i gyd-gyflwynwyr ar BBC Breakfast wedi rhoi teyrnged iddo.

Dywedodd Susanna Reid mai Bill oedd y dyn "mwyaf caredig, mwyaf doniol, mwyaf hael" a'i bod wedi "torri ei chalon" dros ei deulu.

Mae Dr Sian Williams hefyd wedi rhoi teyrnged i'w chyn gyd-gyflwynydd gan ddiolch iddo am y "chwerthin a'r cyfeillgarwch".

Ychwanegodd Louise Minchin fod Bill Turnbull yn "ffrind anhygoel" ac yn "chwaraewr tîm caredig a hynod o gefnogol".

Dywedodd Dan Walker, a olynodd Bill Turnbull fel cyflwynydd BBC Breakfast, ei fod bob amser yn llawn "cyngor anhygoel".

Llun: BBC 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.