Newyddion S4C

Y rheithgor yn achos Ryan Giggs yn methu dod i ddyfarniad

31/08/2022

Y rheithgor yn achos Ryan Giggs yn methu dod i ddyfarniad

Mae'r rheithgor yn achos Ryan Giggs wedi methu dod i ddyfarniad ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau o'u dyletswyddau yn Llys y Goron Manceinion.

Roedd Mr Giggs yn gwadu iddo ymosod ar ei gyn gariad Kate Greville a'i chwaer Emma Greville, ac roedd wedi gwadu iddo reoli Kate Greville drwy orfodaeth.   

Roedd y rheithgor wedi bod yn ystyried yr achos ers dydd Mawrth 23 Awst, cyn i un aelod gael ei ryddhau o achos salwch yr wythnos diwethaf.

Dydd Mawrth fe ddywedodd y barnwr wrth aelodau'r rheithgor nad oedd angen iddynt gyrraedd penderfyniad unfrydol. 

Dywedodd y barnwr Hilary Manley ei bod yn fodlon derbyn dyfarniad os oedd 10 o'r 11 aelod yn gytûn.  

Ond ar ôl i' rheithgor ystyried yn bellach ddydd Mercher, ar ôl 22 awr a 59 munud, nid oedd modd dod i ddyfarniad ac fe gawsant eu rhyddhau o'u dyletswyddau.

Diolchodd y barnwr i'r rheithgor cyn eu rhyddhau, gan eu rhybuddio i beidio a thrafod yr achos rhag ofn y byddai achos arall yn cael ei gynnal yn y dyfodol.

Ychwanegodd y barnwr na fyddai unrhyw achos newydd yn cael ei gynnal tan o leiaf 5 Mehefin 2023.

Cafodd Ryan Giggs ei ryddhau ar fechnïaeth tan 7 Medi, pan fydd camau nesaf yr achos yn cael eu trafod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.