Newyddion S4C

Gwefan newyddion The National Wales yn dirwyn i ben

31/08/2022
The National

Bydd gwefan newyddion 'The National Wales' yn dirwyn i ben ddydd Mercher, a hynny 18 mis ers ei lansio. 

Mewn erthygl ar y wefan, dywedodd rheolwr olygydd The National, Gavin Thompson, bod tanysgrifiadau wedi gostwng eleni sydd wedi golygu o'r herwydd bod y wefan bellach yn 'anghynaladwy.'

Fe gafodd y wefan ei lansio ym mis Mawrth y llynedd, cyn cyhoeddi papur newydd wythnosol. 

Fe ddaeth y gwasanaeth newyddion mewn print i ben ym mis Tachwedd 2021, wyth mis ar ôl iddo gael ei lansio. 

Dywedodd y cwmni tu ôl i'r wefan, Newsquest, fod yn rhaid i'r wefan ddod i ben yn sgil cystadleuaeth gan sefydliadau newyddion eraill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.