Gŵyl Drysau Agored yn dychweyd am y tro cyntaf ers y pandemig

Gŵyl Drysau Agored yn dychweyd am y tro cyntaf ers y pandemig
Bydd Gŵyl Drysau Agored, sy’n rhoi mynediad rhad ac am ddim i nifer o safleoedd treftadaeth ar hyd a lled Cymru yn dychwelyd yn llawn fis nesaf, a hynny am y tro cyntaf ers cyn pandemig Covid-19.
Bydd rhannau o adeiladau hanesyddol pwysicaf y wlad yn cael eu hagor i’r cyhoedd am y tro cyntaf erioed hefyd.
Dros y mis nesaf yng Nghadeirlan Tyddewi bydd modd gweld gweithiau celf prin o'r oesoedd canol am y tro cyntaf, o feddrod yr Arglwydd Rhys i gilfachau gweddïo gwreiddiol, a hynny fel rhan o ŵyl Drysau Agored.
Ac mae yna lawer i ddysgu yn y gadeirlan, yn ôl Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi: "Yn wreiddiol yn y gadeirlan hon, roedd yr adeilad i gyd gyda lliw. Coch am waed Crist, ac mae lluniau o Marc, Luc a Ioan hefyd.
"Ond fel arfer, dyw pobl ddim yn gallu dod trwy rhannau o'r adeilad hwn."
Mae’n gyfle prin i weld y tu mewn i adeiladau fel tŵr y gloch, porth y tŵr a mynediad am ddim i Lys yr Esgob a’r gobaith yw denu pobol leol i safleoedd o'r fath ar hyd a lled Cymru.
Yn ôl Dr Ffion Reynolds, Rheolwr y Celfyddydau a Threftadaeth CADW, mae'n ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
"Mae hwn yn rhywbeth i bobl leol, i bobl sydd yn byw i'r henebion yma, sydd efallai ddim moyn talu i fynd mewn i'w gweld," meddai.
"Ond dyma siawns nhw i weld y lle ar eu stepen drws."
Wedi iddyn nhw ail-agor i ymwelwyr, mae yna gyfle nawr i ddysgu mwy am hanes cudd Cymru.
Mae dros 200 o safleoedd ar hyd Cymru gan gynnwys safleoedd cyn-hanesyddol ac abatai, ar gael i'w hymweld.