Newyddion S4C

Pryder am broblemau gyda system ffôn newydd yng Ngheredigion

28/08/2022

Pryder am broblemau gyda system ffôn newydd yng Ngheredigion

Mae pobl mewn pentref yng Ngheredigion yn dweud bod problemau diweddar gyda system ffôn newydd yn eu gadael heb ffordd o gysylltu â’r gwasanaethau brys. 

Mae cartrefi yng Nghwmystwyth - lle nad oes signal ffôn symudol - yn cael eu newid yn raddol o'r hen linellau copr i wasanaeth digidol newydd. 

Ond nid yw’r system ddigidol yn gweithio pan mae problemau band eang neu doriadau pŵer – sy’n bryder i bobl leol pan fydd argyfwng.

Dywedodd Eluned Evans sy’n byw yn y pentref nad oes modd cysylltu gyda’r gwasanaethau brys nag unrhyw rif arall os fydd toriad yn y cyflenwad trydan.

"Mae o jyst yn rhwbio halen i mewn i’r craith. Os ydy’r tywydd yn ddrwg ‘ da ni’n colli’r electrig. Weithiau pan mae’r haul yn gwennu ‘da ni’n colli’r electrig.

"Allwch chi weld wrth fynd allan o’r pentref mae gwifrau electrig a’r fibre ac mae canghennau coed reit ar ei ben nhw.

"Mae’r rhan fwyaf y bobl sy’n byw yng Nghwmystwyth of a certain age. ‘Da ni yn poeni beth pe bai un ohono ni yn cael strôc."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.