Newyddion S4C

Met Caerdydd yn edrych i gadw eu lle ar frig y gynghrair

Sgorio 27/08/2022
2022-08-13 Cardiff Met v Connahs Quay -37.jpg

Bydd Met Caerdydd yn edrych i gadw eu lle ar frig y gynghrair wrth iddynt deithio i'r Oval. Ar ochr arall y gynghrair bydd Pontypridd yn edrych am eu buddugoliaeth gyntaf y tymor yn erbyn Aberystwyth.

Caernarfon v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30

Met Caerdydd sydd ar gopa’r gynghrair ar ôl sgorio chwe gôl heb ildio unwaith yn eu dwy gêm agoriadol y tymor hwn.

Wedi buddugoliaeth nodedig yn erbyn Cei Connah y penwythnos blaenorol fe sgoriodd Sam Jones hatric yn erbyn Aberystwyth ar 20 Awst wrth i’r myfyrwyr sicrhau triphwynt cyfforddus arall (Aber 0-4 Met).

Ond mae Caernarfon wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd gan gadw pedair llechen lân, ac ar ôl trechu Pontypridd y penwythnos diwethaf bydd Huw Griffiths yn gobeithio y gall y Cofis chwalu record 100% y myfyrwyr.

Hwlffordd v Airbus UK | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Hwlffordd wedi cael dechrau addawol i’w tymor gyda buddugoliaeth yn erbyn Caernarfon a gêm gyfartal yn Y Bala.

Mae Airbus ar y llaw arall yn dal i chwilio am eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad yn ôl i’r uwch gynghrair wedi colledion yn erbyn Aberystwyth a Chei Connah.

Enillodd Hwlffordd 1-2 oddi cartref yn Airbus yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru llynedd diolch i gôl hwyr Touray Sisay a roced gan Kieran Lewis yn yr hanner cyntaf.

Cyn hynny roedd Airbus wedi mynd ar rediad o saith buddugoliaeth yn olynol yn erbyn yr Adar Gleision, a dyw bechgyn Brychdyn heb golli ar Ddôl-y-Bont ers Medi 2010.

Pen-y-bont v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd Y Fflint yn gobeithio ei gwneud hi’n dair buddugoliaeth o’r bron ar eu taith i Stadiwm Gwydr SDM.

Mae chwaraewyr newydd a rheolwr newydd Y Fflint wedi ymdopi’n sydyn gyda gofynion yr uwch gynghrair ac mae bechgyn Cae-y-Castell yn hafal ar bwyntiau gyda Met Caerdydd ar frig y tabl.

Roedd ‘na siom i dîm Rhys Griffiths dros y penwythnos gyda Pen-y-bont yn ildio gôl hwyr yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Mae’r Fflint ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn Pen-y-bont (ennill 5, cyfartal 1) gan gynnwys eu buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf.

Pontypridd v Aberystwyth | Dydd Sadwrn – 14:30

Er bod pen ucha’r tabl yn edrych ychydig yn anghyfarwydd dyw hi ddim yn ormod o sioc gweld mae’r ddau glwb newydd sydd yn eistedd ar waelod y domen.

Dyw hi heb fod y dechrau gorau i Bontypridd yn eu tymor cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair gyda’r newydd ddyfodiaid yn colli eu dwy gêm agoriadol heb sgorio gôl.

Bydd Anthony Williams hefyd yn gobeithio am well perfformiad gan griw Aberystwyth yn dilyn colled drom gartref yn erbyn Met Caerdydd y penwythnos diwethaf.

Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y clybiau ers i Bontypridd guro Aberystwyth o 1-0 wedi amser ychwanegol yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru yn Nhachwedd 2005.

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.