Mam o'r Rhondda yn apelio ar ei mab i ddod adref dair blynedd ers ei ddiflaniad
Mae mam o Rondda Cynon Taf wedi apelio ar ei mab i ddod adref dair blynedd ers ei ddiflaniad.
Roedd Jordan Moray yn 33 oed pan ddiflannodd heb unrhyw olion o'i fflat yng Nghwmbach ym mis Gorffennaf 2019.
Dywed ei fam, Debbie Moray, ei bod hi a'i theulu yn "dorcalonnus".
Roedd drws fflat Jordan heb ei gloi ac roedd ei gonsol gemau yn dal i fod ymlaen.
Er bod ymchwiliad Heddlu De Cymru'n parhau, nid oes unrhyw atebion am yr hyn sydd wedi digwydd iddo.
Nid oes arwyddion o fywyd gan nad oes unrhyw daliadau wedi eu gwneud, ac nid yw wedi cysylltu â'i deulu.
'Caru bywyd'
Dywedodd Debbie Moray: "Mae Jordan yn annibynnol a bob amser yn cadw'i hun i'w hun. Mae'n eithaf tawel i ddweud y gwir.
"Mae'n caru bywyd yn yr awyr agored - byddai'n fy ffonio a gofyn imi gasglu cwpwl o BBQs sy'n gallu cael eu taflu a stêc.
"Byddai'n cyfarfod â fi a byddai'n mynd i fyny'r mynydd a'i fwyta yno, am oriau ac oriau.
"Roedd gan yr heddlu arbenigwyr fforensig tu fewn i'w fflat ond dwi'n meddwl ei fod wedi gadael gan ei fod yn dymuno gwneud."
Roedd llygedyn o obaith i Debbie ym mis Ionawr 2021 gan fod adroddiadau fod Jordan wedi ei weld yn ardal Stratford Upon Avon.
Mae dyn yn honni iddo fod wedi siarad gyda Jordan ym mis Medi 2020 ac mae adroddiadau pellach o bobl yn meddwl iddyn nhw ei weld yn yr ardal.
Mae ymchwiliad Heddlu De Cymru yn parhau ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.