25 o bobl wedi marw mewn ymosodiad ar orsaf trên yn Wcrain

Mae 25 o bobl wedi marw wedi i Rwsia ymosod ar orsaf drên yng nghanolbarth Wcráin, wrth i'r wlad geisio dathlu ei diwrnod annibyniaeth.
Cafodd yr orsaf yn nhref Chaplyne yn ardal Dnipropetrovsk ei tharo gan daflegryn, wrth i bobl Wcráin nodi ei annibyniaeth o'r Undeb Sofietaidd.
Ers dyddiau roedd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, wedi rhybuddio y gallai Rwsia geisio gwneud "rhywbeth creulon dros ben" yr wythnos hon.
Roedd y wlad wedi paratoi am ymosodiad ffyrnig ar y diwrnod, sydd hefyd yn nodi chwe mis ers i'r gwrthdaro ddechrau.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Dmytro Kuleba