
Prinder meddyginiaeth yn achosi ‘straen a gorbryder’
Prinder meddyginiaeth yn achosi ‘straen a gorbryder’
Mae fferyllwyr wedi rhybuddio bod prinder rhai meddyginiaethau yn achosi straen a gorbryder i gleifion.
Dros y misoedd diwethaf mae prinder rhai meddyginiaethau wedi achosi problemau i gleifion a fferyllfeydd ar draws Cymru a’r DU.
Un sydd wedi profi’r broblem yw Catrin Davies o Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf, wrth geisio cael moddion at adlif asid ('acid reflux') i’w merch 10 wythnos oed.
“Y presgripsiwn cyntaf wnaethon ni lwyddo i gael o yn eithaf hawdd ond wedyn pam aethon ni yn nôl doedd dim byd mewn stoc gyda nhw,” meddai Ms Davies.
“Fe wnaeth y fferyllfa sôn bod nhw’n cael hi’n anodd iawn i gael gafael ar y moddion felly es i rownd nifer fawr o fferyllfeydd eraill, gan gynnwys y rhai mawr a rhai bach. Es i dros y lle i gyd, nes i hyd yn oed ofyn i deulu sy’n byw mewn ardaloedd eraill yng Nghymru i chwilio am rhai yn lleol, ond doedd dim rhai ar gael.”

Roedd yn rhaid i Ms Davies fynd nôl at y doctor deirgwaith cyn cael presgripsiwn am foddion oedd ar gael i’w merch, Eos.
Er hynny, roedd y trydydd opsiwn yn gallu achosi sgil effeithiau a bu'n rhaid i Catrin Davies gysylltu â’r ysbyty i weld a oedd y meddyginiaethau yn ddiogel i fabi mor ifanc.
“Erbyn y trydydd ymweliad i’r doctor oedden ni wedi rhedeg allan o foddion erbyn hyn so oedd hi yn sâl a gyda’r tywydd poeth o’n i rili yn poeni am Eos yn mynd yn dehydrated ac yn sâl, achos doedd hi ddim yn gallu cadw ddim byd i lawr. Mi oedd yn broblem.
“Roedd rhaid iddyn nhw checio gyda doctoriaid yn yr ysbyty bod y moddion yn saff achos dydi o ddim yn cael ei rhoi i fabis yn arferol. Felly roedd lot o nôl a blaen a thrafod cyn gallu cael y trydydd opsiwn i wella hi.
“Oedd hynny wedi gwneud i mi boeni a dwi dal yn poeni. Mae rhaid iddi gael rhywbeth ond roedd y moddion yn drydydd dewis am reswm.”
'Stressful'
Yn ôl Ms Davies mae’r broses yn dal i achosi "gorbryder a straen enfawr" iddi.
“Oedd o yn stressful iawn chwilio am y moddion yma, yn enwedig yn y tywydd poeth. Oedd y babi yn y car da fi. O’n i mynd rownd a rownd.
“Dwi’n dechrau poeni bod y trydydd opsiwn am fynd allan o stoc hefyd. Mae wedi achos gorbryder, dwi’n pryderu yn fawr am iechyd fy merch.”

Dywedodd Rick Greville, Cyfarwyddwr ABPI Cymru a’r Gadwyn Gyflenwi Ddosbarthu wrth Newyddion S4C: “Gall prinder meddyginiaeth ddigwydd am lawer o resymau.
“Mae’r achosion fel arfer yn wahanol ym mhob achos. Gallant gynnwys problemau wrth gael deunyddiau crai, gweithgynhyrchu neu faterion logistaidd, galw annisgwyl neu gyfuniadau o'r rhain.
“Mae gweithdrefnau ar waith ar gyfer pan fydd unrhyw brinder yn digwydd ac mae cwmnïau fferyllol yn gweithio’n agos gyda’r GIG a’r Adran Iechyd i ddatrys y broblem cyn gynted â phosibl.”
'Gwaethygu'
Yn ôl Richard Evans, sy’n fferyllydd yn y de orllewin ac yn aelod o Fwrdd Fferylliaeth Cymru, mae’r broblem wedi “gwaethygu yn ddychrynllyd” dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ac mae'n delio gyda goblygiadau prinder meddyginiaethau bob dydd yn ei waith.
“Mae’r list (o foddion prin) ‘da ni’n cael nawr wedi dyblu yn ei seis o flwyddyn yn ôl. Felly mae e yn challenge cael rhai cyffuriau i mewn sy’n golygu os na allwn ni gael meddyginiaethau penodol mae’n rhaid i’r claf fynd nôl at y meddyg teulu eto.”
“Mae wrth gwrs yn peri gofid i’r person achos maen nhw’n pryderu am orfod newid triniaeth ac ydy’r driniaeth am fod mor addas.”
'Gwastraffu amser'
Mae Bwrdd Fferylliaeth Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i addasu’r drefn mewn rhai sefyllfaoedd.
Yn ôl Mr Evans weithiau mae’n fater o newid y meddyginiaethau i rywbeth tebyg neu newid ffurf y meddyginiaethau o dabledi i gapsiwlau er mwyn goroesi’r prinder, ond does gan y fferyllydd ddim hawl i newid y presgripsiwn.
“Mae fe yn gwastraffu amser y meddyg ac wedyn ni fel fferyllwyr methu gwneud dim i helpu. Ma’ fe’n common sense.
“Bydden ni’n gallu siarad gyda’r meddyg a dweud ‘dyw cyffur A ddim ‘da ni ond ma’ cyffur B sy’n gallu gwneud gwmws yr un peth.”
Ychwanegodd Ms Davies ei bod hi’n cefnogi argymhelllion Bwrdd Fferylliaeth Cymru gan ddweud y byddai’r broses wedi bod yn llawer haws “heb yr holl dripiau yn ôl ac ymlaen”.
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, "Nid yw deddfwriaeth gyfan y DU yn caniatáu i fferyllwyr gyflenwi meddyginiaethau ar wahân i'r rhai y mae claf wedi ei ragnodi oni bai bod protocol prinder difrifol ar waith.
“Ni allwn newid deddfwriaeth sy'n llywodraethu amnewid meddyginiaethau presgripsiwn. Mae'r mwyafrif helaeth o gleifion yn cael y meddyginiaethau y maen nhw'n cael eu rhagnodi heb unrhyw oedi. Er mwyn cefnogi presgripsiynau wrth reoli prinder, rydym yn cyhoeddi cyngor yn rheolaidd ar ddewis ac argaeledd y dewisiadau amgen mwyaf addas."