Newyddion S4C

Brech Y Mwncïod: Cymuned hoyw wedi’i “hamddifadu”

Newyddion S4C 17/08/2022

Brech Y Mwncïod: Cymuned hoyw wedi’i “hamddifadu”

Mae prinder brechlynnau Brech y Mwncïod ar gyfer pobl sydd mewn perygl o ddal yr haint, yn ôl ymgynghorydd mewn afiechydon rhyw a HIV.

Dywedodd y Dr Olwen Williams wrth Newyddion S4C fod y diffyg cyflenwad yn achosi dryswch i bobl, ac yn peri pryder. 

 Yr wythnos ddiwethaf fe gofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 40 achos o’r haint yng Nghymru. Ar hyn o bryd, y rhai sy’n gymwys i dderbyn brechlyn yw rhai gofalwyr iechyd, pobl sy’n dod i gyswllt uniongyrchol â’r haint, dynion hoyw a deurywiol.

Yr wythnos hon, fe ddywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig fod cyflenwad o’r brechlyn yn isel, gan fod y galw amdano mor uchel.

“Da’ ni wedi bod yn neud yn siŵr yn y dechrau bod unigolion sy’n dod i’n clinigau ni’n barod, yn rhoi tecst iddyn nhw yn dweud bod y brechlyn ar gael ac wedyn do’dd o ddim. Wrth gwrs mae hwnna’n rhoi ychydig bach o confusion mewn i’r peth.” Meddai Dr Williams.

“Ond wrth gwrs erbyn heddiw ‘da ni wedi gweld ein bod ni mwy neu lai wedi rhedeg allan o’r brechlyn yna.”

Mae rhai wedi cael trafferth wrth geisio cael brechlyn o’u bwrdd iechyd lleol. Fe dderbyniodd Christian Webb neges destun yn ei wahodd i gael brechlyn mis diwethaf. Ond roedd ‘na heriau cyn iddo allu ei dderbyn.

“Roedd yna linc yn y neges destun er mwyn cael mwy o wybodaeth am y brechlyn. Yn anffodus doedd y linc hynny ddim yn gweithio roedd angen i mi ofyn i ffrindiau ynglŷn â ble oedd y canolfan brechu.”

“Mae fy ffrindiau wedi cael profiadau tebyg, just dryswch.”

“Dwi’n credu fod y wybodaeth ar sut i gadw’n ddiogel a beth yw’r symptomau ac ati wedi bod yn eithaf anodd i ddod o hyd iddo.”

“Yn Llundain a dinasoedd mawr eraill mae gwybodaeth i gael mewn bariau hoyw ac ati. Fi’n meddwl dylai byrddau iechyd neud mwy i estyn mas i’r gymuned.”

“Dwi’n teimlo fel petai ein cymuned wedi cael ei amddifadu.”

“Os oedd y feirws yma’n ymledu ymysg grwpiau arall o bobl, mi fydd bach mwy o sylw yn cael ei rhoi at y feirws yma.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n disgwyl cyflenwad arall o’r brechlyn dros yr wythnos nesaf a bydd pawb sy’n gymwys yn derbyn apwyntiad. Yn ôl y llywodraeth, dylai pobl sy'n pryderu am symptomau gysylltu â'r GIG ar 111 neu wasanaeth iechyd rhyw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.