Canlyniadau Safon Uwch: 'Ystod eang o opsiynau' heblaw prifysgol
Canlyniadau Safon Uwch: 'Ystod eang o opsiynau' heblaw prifysgol
Wrth i ganlyniadau Safon Uwch gael eu cyhoeddi ddydd Iau, mae Newyddion S4C wedi siarad â dwy sydd wedi ffafrio opsiynau eraill yn hytrach na phrifysgol.
Nid prifysgol oedd dewis Fflur Powell-Roberts o bentref Talwrn, Ynys Môn.
Roedd hi wedi meddwl mai dyma fyddai’r llwybr iddi hi, ond yn 14 oed cafodd ei tharo’n wael.
Fe dreuliodd hi flynyddoedd mewn ysbyty yn Lerpwl yn cael triniaeth ar gyfer Lupus, sef cyflwr hir dymor sy'n achosi poen i’r cyhyrau a blinder. Mae hefyd ganddi arthritis.
“Benderfynon ni bod fi mynd i dorri fy subjects lawr, so bod fi ‘mond yn ‘neud pedwar TGAU yn lle yr 11 neu beth bynnag sy’ 'na rŵan.”
Ond roedd Fflur yn dal i ymweld â'r ysbyty yn gyson, ac fe wnaeth hi ddewis gadael yr ysgol ar ôl gwneud ei harholiadau cyn ystyried y camau nesaf.
“Felly nesh i gymryd chwe mis ar ôl gorffen ysgol i ffwrdd a ddaeth y cyfla i fynd i’r sêl yn Gaerwen, y farchnad. Ddaeth swydd mamolaeth i fyny am chwe mis,” meddai.
Fe ymgeisiodd am y swydd a’i chael hi.
“O’n i 'di meddwl bo' fi mynd i fynd i coleg wedyn i ‘neud lefel A neu be' bynnag. Ond wedyn ddaeth y cyfla wedyn i gael y swydd yn barhaol. Ac erbyn o’n i 'di dechrau cael cyflog a ballu, o’dd hi yn anodd iawn mynd yn ôl i fynd i coleg unwaith o’dd ‘na gyflog yn dod bob mis ‘lly."
Dydy Fflur, sy’n 25, ddim yn difaru peidio mynd i’r brifysgol.
“Dwi’n rili hapus efo’r ffordd mae petha 'di gweithio allan. Dwi’m yn gweld fyswn i 'di cael dim mwy neu fyswn i 'di elwa dim mwy o’r swyddi dwi 'di cael o fod yn y brifysgol. Mae 'na adegau wrth gwrs, ‘what if?’ mewn rhyw ffordd. Ond na, dwi’m yn gweld o fel bod fi 'di colli allan ar ddim byd rili.”
Mae’n dweud bod cyflogwyr yn edrych am brofiad yn fwy na dim, rhywbeth y mae hi wedi llwyddo i’w gael trwy wneud amryw o swyddi yn y byd amaeth ers gadael yr ysgol.
Gweithio yn profi llaeth o gwmpas ffermydd y gogledd i gwmni National Milk Record mae Fflur bellach.
Mae hi newydd brynu tŷ ar ei phen ei hun yng Nghaernarfon.
“Dwi’n teimlo yn reit proud o’r peth rili, bod fi 'di dod, bod fi 'di bod yn sâl, bod fi 'di cwffio fo i ryw bwynt a bod fi 'di gallu prynu tŷ ar y diwadd.”
Ei chyngor i unrhyw un sydd yn ansicr beth i wneud yn sgil eu canlyniadau Lefel A neu heb gael y graddau roedden nhw’n disgwyl yw peidio digalonni.
“Dwi’n meddwl bod hi’n anodd achos mae sefyllfa pawb yn wahanol. Ond dydy o ddim yn ddiwadd ar ddim byd. Megis cychwyn ydy o. Ac os ydy rhywun isio rwbath gymaint â be maen nhw isio fo maen nhw’n ffindio ffordd i gael o.”
'Rili da mewn cyfnod byr o amsar'
Fe aeth Ceris Jones o Benygroes, Caernarfon i Brifysgol Metropolitaidd Caerdydd i astudio Dylunio Cynnyrch ond ar ôl tua wyth mis, fe benderfynodd hi ddychwelyd adref i'r gogledd a dilyn trywydd gwahanol.
Erbyn hyn, mae'n grediniol mai "prentisiaeth ydy'r ffordd ora i fynd”.
Fe gafodd Ceris swydd mewn canolfan alwadau yng Nghyngor Gwynedd am ychydig o fisoedd cyn darganfod bod y cyngor yn cyhoeddi cynllun prentisiaethau.
Penderfynodd ddewis prentisiaeth peirianneg sifil, ac fe wnaeth hyn gynnig llu o brofiadau amrywiol iddi.
"Nesh i gal llwyth o brofiada’ pan nesh i gychwyn o, o'n i'n mynd ar llwyth o gyrsia’ gwahanol ag o’dd o jyst yn helpu i ehangu fi am y maes," meddai.
"Blwyddyn a hannar i fewn i'r prentisiaeth, gesh i swydd llawn amsar ar yr A55 wedyn fel technegydd a dwi rŵan wedi cael fy mhenodi fel peiriannydd cynorthwyol ar yr A55, so ma’ 'di mynd yn rili da mewn cyfnod byr o amsar."
"D'on i ddim rili os o'n i isio mynd i brifysgol pan nesh i neud Lefel A fi. O'n i'n teimlo fel pan o'n i yn ysgol, odda nhw'n pwyso arna chi fynd ymlaen i brifysgol so nesh i jyst neud cais ar gyfar product design achos dyna on i'n fwynhau ar y pryd.”
Yn ôl Ceris, does dim digon o sylw yn cael ei roi i wneud prentisiaethau ar ôl gadael yr ysgol.
"Yn enwedig pan o'n i'n neud Lefel A fi, oedda ni'n gorfod gneud cais i UCAS even though os oedda ni ddim isio mynd i brifysgol, so doedda ni ddim efo llawer o syniad lle i sbïo am prentisiaetha’."
Yn ôl Ceris, pe bai hi'n cael dychwelyd i'w chyfnod yn yr ysgol, byddai ei phenderfyniad hi'n dra-gwahanol.
"'Swn i yn ôl yn Lefel A rŵan, 'swn i definite yn mynd yn ôl i ‘neud 'prentisiaeth cyn mynd i brifysgol."
'Peidiwch â bod yn rhy siomedig'
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wrth Newyddion S4C: "I unrhyw un na chafodd y canlyniadau yr oeddech chi eu heisiau, neu os ydych chi'n ansicr o'ch camau nesaf, fy neges i yw - peidiwch â bod yn rhy siomedig.
"Mae ystod eang o opsiynau ar agor i chi, gan gynnwys y broses clirio, prentisiaethau, neu hyd yn oed dechrau eich busnes eich hun. Mae Gyrfa Cymru yn lle gwych i ddechrau, a bydd eich ysgol neu’ch coleg yno i'ch cefnogi chi hefyd.
“Mae ein Gwarant i Bobl Ifanc yn rhoi cyfle i bawb o dan 25 oed gofrestru mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd, neu ddod yn hunangyflogedig, felly mae gennych chi lawer o ddewisiadau wrth ddilyn yr yrfa rydych chi ei eisiau."