Côr Meibion Cymry Llundain yn ennill gwobr genedlaethol
Côr Meibion Cymry Llundain yn ennill gwobr genedlaethol
Mae Côr Meibion Cymry Llundain wedi eu henwi fel un o saith o enillwyr cystadleuaeth genedlaethol ar y cyd rhwng Classic FM a Making Music.
Roedd y gystadleuaeth genedlaethol yn chwilio am y grwpiau cerddoriaeth amser-hamdden gorau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd a Phrif Arweinydd y côr, Edward-Rhys Harry, bod y llwyddiant yn "fraint amhrisiadwy" i'r côr.
"Oedd ryw 3,000 grwpie wedi roi rhywbeth i fewn a wedyn o'dd raid i'r panel dewis saith grwpie, hynny yw, grwpie cerddorfaol, offerynnol, corawl."
'Hysbysebu a chynrychioli Cymru'
Fe wnaeth y côr berfformio cyfansoddiad gan Edward a Grahame Davies o'r enw 'A Blessing for Bendigeidfran', ac roedd cael yr elfen Gymreig yn rhan o'r cyfansoddiad yn bwysig iawn iddynt.
"Fel Côr Meibion Cymry Llundain, ma'r côr yn sefydlu i hysbysebu a i gynrychioli pobl Cymru tu allan o'r wlad.
"Ma'r côr yn rili falch o'r iaith, o'r darne traddodiadol Cymraeg a wedyn, ma' wastad ryw syniad gyda nhw i greu pethe newydd hefyd yn Gymraeg neu i hysbysebu Cymru fel wlad."
Yn ôl Edward, mae cymuned Cymry Llundain yn "arbennig iawn."
"Ma' 'na lawer o ni yn Llundain sy'n cuddio fel Cymry Cymraeg a ni'n dod at ein gilydd mewn llefydd fel Canolfan Cymry Llundain i gwrdd lan gyda'n gilydd.
"Ma' 'na nifer o gorau erbyn hyn yn y Cymry Llundain sy'n llwyddiannus iawn a ni gyd yn cefnogi'n gilydd. Ma'n bwysig iawn bo' ni'n ca'l yr amser Cymrag gyda'n gilydd."
Edward oedd enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni, ac mae hyn yn anrhydedd mawr iddo.
"Mae wedi bod yn anrhydedd mawr, i ennill y tlws yna sydd mor bwysig, ac i fod yn onesd, ma' fe mor unigryw mewn cymhariaeth gydag unrhyw wledydd eraill - dim ond ni sy'n roi rhwbeth fel hyn yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae'n bwysig iawn i gyfansoddwyr i gael rywbeth i drial gwneud rywbeth wahanol trwy cystadleuthe mor arbennig fel hyn," meddai.
