Eisteddfod: ‘Mae’n hit mawr i ni felly dwi’n trio paratoi o flaen llaw’

Eisteddfod: ‘Mae’n hit mawr i ni felly dwi’n trio paratoi o flaen llaw’
Mae teuluoedd sy’n mynychu’r Eisteddfod yn dweud eu bod yn gorfod paratoi eu cyllidebau o flaen llaw er mwyn cael mynd i’r ŵyl.
Eleni, mae pris tocyn yr wythnos i deulu o bedwar yn costio £320 heb gynnwys costau i aros ar y maes carfannau neu wersylla.
Dywed yr Eisteddfod nad yw pris tocynnau wedi codi ers nifer o flynyddoedd.
Dywedodd Mari Terschowetz o Gaernarfon sy’n fam i ddau o blant, bod ei theulu yn trio prynu tocynnau bargen gynnar er mwyn arbed arian ym mis Awst.
“Mae dod a phedwar i’r Eistedded yn gallu bod yn reit ddrud, ond nes i dalu am y campio dwy flynedd yn ôl. Dwi di brynu tocynnau ym mis Mehefin i leihau'r costau ym mis Awst achos mae’n ddrud i fwyta, yfed a phrynu anrhegion yma.
"Dw’i ddim yn meddwl bod nhw’n codi prisiau er mwyn codi prisiau, mae yn costi gymaint a hynna i redeg rhywbeth fel hyn, ond mae yn hit mawr i ni.
“Ma pabell yn costio £150 yr wythnos, a Duw a wyr faint ma’ bob dim arall yn costi. Da ni’n lwcus o ran bod cyflog ni yn dda - da ni ddim yn dioddef yn ofnadwy ar hyn o bryd ond dwi’ yn ymwybodol bod e yn lot.
“Ni’n trio cael o leiaf un pryd yn y babell a dod a phicnic lle ni’n gallu ond mae o’n ddrud. Mae ishe opsiynau syml. Efo plant ‘fyd ma ishe rhywbeth sy’n hawdd iddyn nhw ‘fyd.”
“Dwi’n athrawes a dwi’n cymryd gwaith marcio ychwanegol, so dwi’n cymryd gwaith ychwanegol er mwyn cael mwy o bres ym mis Awst.”
Wrth i gostau byw gynyddu, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod y gwyliau haf yn gallu cyflwyno heriau ychwanegol i deuluoedd.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ar ddechrau wythnos yr Eisteddfod bod “teuluoedd yn teimlo o dan bwysau” a’u bod nhw wedi cyhoeddi cynlluniau i ddarparu cinio am ddim o fis Medi i'r rhan fwyaf o blant dosbarth derbyn a phob plentyn mewn ysgolion cynradd.
Mae yna hefyd alwadau ar yr Eisteddfod i fod yn fwy hyblyg gyda thocynnau gan fod mwy o amrywiaeth o fewn teuluoedd erbyn heddiw.
Dywedodd Mari Terschowetz: “Mae’n handi bod dan bump yn dod am ddim ac mae hynny’n grêt, ond o ran tocyn teulu dim ond dau oedolyn a dau o blant oedd, nid dau oedolyn ac un plentyn, ma ishe bod yn bach mwy hyblyg gyda theuluoedd achos dyw teuluoedd ddim yn edrych yr un peth.”
Mewn ymateb dywedodd yr Eisteddfod: “Yn wahanol i nifer o wyliau a digwyddiadau eraill, nid ydyn ni wedi codi ein prisiau o gwbl ers nifer fawr o flynyddoedd.
“Mae costau byw wedi cynyddu i bawb dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydyn ni’n deall ac yn gwerthfawrogi ei bod hi’n anodd iawn i bawb ar hyn o bryd.”