Cynyddu patrolau ger Castell Gwrych ar ôl i farbeciws losgi tir

Cynyddu patrolau ger Castell Gwrych ar ôl i farbeciws losgi tir
Fe fydd yr heddlu yn cynyddu eu presenoldeb ger Castell Gwrych yn Sir Conwy ar ôl i dir gael ei losgi gan danau gwersylla a barbeciws yno'n ddiweddar.
Mae swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Castell Gwrych wedi ymweld â’r goedwig ger y castell yn dilyn pryderon am y sefyllfa.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Mae gan rhan o’r ardal statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a gall difrod tân achosi niwed anadferadwy yn ogystal ag achosi straen enfawr ar adnoddau i’n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân. Byddwn yn cynnal patrolau rheolaidd yn yr ardal.”
Daw hyn yn dilyn galwadau i atal gwerthiant o farbeciws tanio un tro yn y DU.
Dywedodd Swyddog Troseddau Amgylcheddol Heddlu'n Gogledd, y Ditectif Gwnstabl Eryl Lloyd, na ddylai pobl ddefnyddio'r math yma o farbeciws.
“Os da chi am ddefnyddio barbeciws a’r disposable barbeciws ‘ma, ‘da chi’n defnyddio safleoedd le mae 'na lefydd i neud barbeciws,” meddai.
Mae’r castell yn Sir Conwy yn adnabyddus am gynnal dwy gyfres o’r rhaglen ITV ‘I’m a Celebrity…Get Me Out of Here’.
Ychwanegodd Eryl Lloyd: “Mae’r olygfa’n brydferth yma, a dwi’n gallu gweld pam ma pawb eisiau dod yma ond, dyma be sy’n digwydd pan da chi ddim yn edrych ar ôl y lle. Mae 'na niwed mawr yn digwydd yma.”