Llaeth ceirch ar stondin cyngor yn codi gwrychyn undeb amaeth

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi beirniadu'r defnydd o laeth ceirch yn lle llaeth naturiol ar stondin Cyngor Ceredigion yn y Brifwyl.
Roedd plant wedi eu hannog i greu 'smoothies' allan o laeth ceirch yn yr Eisteddfod yn Nhregaron yn gynharach yn yr wythnos.
Dywedodd yr undeb fod amaethwyr Ceredigion yn gynhyrchwyr pwysig o laeth, ac fe alwodd swyddogion ar y cyngor i esbonio'r penderfyniad dros ddefnyddio llaeth ceirch oedd wedi ei fewnforio o Ffrainc.
Dywedodd y cyngor fod y penderfyniad i ddefnyddio llaeth ceirch ar y stondin er mwyn sicrhau fod y diodydd yn cael eu cadw ar dymheredd diogel mewn tywydd poeth.
Darllenwch ragor yma.