Newyddion S4C

Rowan Williams: Datganoli 'ddim yn cael ei gymryd o ddifrif' yn San Steffan

Newyddion S4C 03/08/2022
Rowan Williams

Mae cyn-Archesgob Caergaint, Rowan Williams, wedi awgrymu "nad yw datganoli'n cael ei gymryd o ddifrif" gan Lywodraeth San Steffan.

Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Newyddion S4C yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd y Gwir Barchedig a'r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Williams ei fod yn credu bod y llywodraeth bresennol "yn broblem i ni yma yng Nghymru".

Dywedodd Llywodraeth y DU fod datganoli yn parhau i fod yn flaenoriaeth i weinidogion yn San Steffan.

Fel cyd-gadeirydd y comisiwn annibynnol i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, roedd Dr Williams yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel brynhawn Mercher. Dywedodd ei fod yn credu bod Cymru bellach mewn sefyllfa lle roedd mwy, yn hytrach na llai, datganoli'n debygol:

"Tasg y Comisiwn yw peidio penderfynu ar y dyfodol, ond trafod opsiynau - fel annibyniaeth neu ddatganoli - mae'r cwestiynau ar agor.

"O ble dwi'n sefyll, mwy o ddatganoli sydd fwyaf tebygol."

Pan ofynnwyd iddo am sylwadau ASau Liz Truss yr wythnos hon y dylai Nicola Sturgeon "gael ei anwybyddu", ymatebodd:

"Wrth gwrs, mae llywodraeth SanSteffan yn broblem i ni yma yng Nghymru. Beth fydd yn digwydd yn San Steffan dwi ddim yn gwybod, ond wrth gwrs dwi'n gobeithio bydd y datganoli yn cael eidrin o ddifrif yn San Steffan.

"Dwi ddim yn siŵr os yw datganoli wedi cael ei gymryd o ddifri ganddyn nhw tan nawr. Rwy'n gobeithio y gallwn ni fel Comisiwn ddod â'r cwestiwn yna ymlaen."

Beirniadu Boris Johnson

Yn wreiddiol o Abertawe, roedd Dr Williams yn Archesgob Caergaint rhwng Chwefror 2003 a Rhagfyr 2012. Mae wedi beirniadu'r PM presennol Boris Johnson sawl tro, gan gynnwys yn ddiweddar dros sgandal Partygate a pholisi llywodraeth San Steffan o anfon ffoaduriaid i Rwanda.

Gyda Phrif Weinidog newydd y DU i'w ethol gan aelodau'r blaid Geidwadol yn ystod yr wythnosau nesaf, gofynnwyd i Dr Williams a oedd yn credu y byddai arweinyddiaeth yn fwy moesol o dani Rishi Sunak neu Liz Truss, dywedodd:

"Mae'n anodd i mi gredu y gallai fod llai o arweiniad moesol nag o dan Boris Johnson. Rwy'n gobeithio y bydd pethau wir yn gwella yno."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod datganoli yn parhau i fod yn flaenoriaeth a'u bod yn "gweithio’n agos gyda gweinyddiaethau datganoledig ac yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru adnoddau i chwarae ei rhan.

“Mae hyn yn cynnwys rhoi mwy o bwerau i arweinwyr lleol yng Nghymru drwy fuddsoddi £585 miliwn drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a thros £120 miliwn drwy’r Gronfa Lefelu i Fyny.

"Mae’r cronfeydd hyn yn rhoi gwneud penderfyniadau yn gadarn yn nwylo arweinwyr lleol sy’n deall anghenion eu hardaloedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.