Toiledau'r Eisteddfod 'cyn waethed â rhai'r fyddin yn Irac' medd Huw Edwards
Mae'r newyddiadurwr Huw Edwards wedi dweud bod 'toiledau ffiaidd' yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion cyn waethed â rhai'r fyddin yn rhyfel Irac.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol fe ddywedodd y darlledwr bod y cyfleusterau yn "gwbl annerbyniol", ac mai'r tro diwethaf iddo "weld cyfleusterau fel hyn oedd gyda'r fyddin yn Irac."
Wrth gymharu'r ddwy sefyllfa, ychwanegodd fod gan y fyddin yn Irac o leiaf esgus am y cyfleusterau gwael yn sgil y rhyfel "yng nghanol yr anialwch".
Aeth ymlaen i ddweud bod "unrhyw osodiad i'r gwrthwyneb yn embaras pur."
Mewn ymateb i gwynion ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, y byddai "nifer yn dweud bod yn well ganddyn nhw'r hen doiledau ond wrth gwrs, byddai'n golygu y bydd mwy o bobl mewn lle cyfyng ac felly y'n ni ishe sicrhau bod pawb yn teimlo yn ddiogel ar y maes a gwnaed y penderfyniad y byddem ni'n defnyddio'r tardis.
"Y'n ni wedi edrych ar gymorth pellach ac mi fydd na gwmni ychwanegol yn dod er mwyn cynorthwyo'r cwmni i sicrhau bo' 'na bobl penodol ar bob un o'r adenne le ma' 'na doilede a chawodydd."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb pellach gan yr Eisteddfod yn sgil sylwadau Huw Edwards.