Newyddion S4C

Pryderon 'difrifol' yn parhau am wasanaethau diogelu plant Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

02/08/2022
Logan Mwangi

Mae pryderon "difrifol" yn parhau am wasanaethau diogelu plant yn ardal Cyngor Pen- y-bont ar Ogwr wedi marwolaeth y bachgen pum mlwydd oed, Logan Mwangi, yn y sir.

Cafwyd hyd i gorff Logan ar lan Afon Ogwr ger pentref Sarn ar 31 Gorffennaf 2021.

Roedd wedi cael ei lofruddio gan ei fam Angharad Williamson, 31, ei lysdad John Cole, 40, a Craig Mulligan. Fe gafodd y tri ddedfryd o oes o garchar ym mis Mehefin.

Cafodd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ei gyhoeddi ddydd Mawrth, yn sgil adolygiad o wasanaethau plant y cyngor ym mis Mai eleni.

Noda'r adroddiad bod cofnodion plant sydd yn mynd ar goll neu mewn perygl ddim wastad yn "ddigon manwl".

Gallai diffyg manylder rhai cofnodion arwain at fethu sicrhau bod y camau cywir yn cael eu dilyn i leihau'r risg i blant sydd mewn perygl medd y ddogfen. 

Er bod yna welliannau wedi bod ers iddynt graffu ar y gwasanaethau plant ym mis Ebrill, 2021 mae pryderon yn parhau.

Noda'r corff fod yna heriau wedi wynebu gofal cymdeithasol wedi'r pandemig am fod yna fwy o alw am y gwasanaethau a hefyd bod anghenion pobl yn fwy cymhleth. Yn ogystal mae problemau staffio wedi bod.

"Roedd diffygion critigol yn y gweithlu mewn perthynas â recriwtio a chadw staff gwaith cymdeithasol, ac absenoldeb staff, wedi arwain at golli staff profiadol ac at farchnad gystadleuol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol asiantaeth a gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a gorddibyniaeth arnynt," medd yr adroddiad. 

Mae'r ffactorau yma a hefyd diffygion mewn rhai systemau a phrosesau yn golygu bod yna "effaith andwyol sylweddol" wedi bod ar allu cyflenwi rhai o wasanaethau plant y sir. 

Mae arbenigwyr wedi dod at ei gilydd i lywio adolygiad o wasanaethau gofal plant yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn dweud bod "camau i ddechrau dysgu ar unwaith yn dilyn digwyddiadau critigol diweddar."

Ymhlith y diffygion sydd yn cael eu nodi mae:

  • Dim digon o ystyriaeth o safbwynt risg a chyfleoedd yn cael eu colli i wneud asesiadau risg yn 'drylwyr'
  • Plant ddim wastad yn teimlo eu bod yn cael eu trin efo urddas a pharch
  • Rhestrau aros yn hir ac felly mwy tebygol bod yr anghenion yn mynd i gynyddu wrth aros am gymorth
  • Gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn cynnal achosion amddiffyn plant a phryder nad ydynt o anghenraid yn cael eu "goruchwylio yn briodol" 
  • Enghreifftiau lle doedd dim digon o ystyriaeth wedi bod i'r potensial o niwed ac ansawdd cofnodion ysgrifenedig yn ymwneud a nodi risgiau, rhwystrau a chryfderau a manylder yn amrywiol 

Dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru eu bod yn falch bod yna gynnydd wedi bod yn y gwasanaethau. 

“Fodd bynnag, mae’n rhaid cymryd camau brys pellach i sicrhau a chynnal gwelliant yn y gofal a chymorth i blant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n rhaid blaenoriaethu’r gwaith hwn er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i blant. Byddwn yn parhau i gysylltu ag uwch-arweinwyr yr awdurdod lleol ac rydym yn monitro perfformiad yr awdurdod lleol yn agos.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.