Newyddion S4C

Lloegr yn curo'r Almaen yn ffeinal Ewro 2022 y merched

31/07/2022
Lloegr Merched

Mae Lloegr wedi curo'r Almaen o 2-1 yn ffeinal Pencampwriaeth Merched Ewro 2022.

Roedd cyfanswm o 87,192 yn gwylio'r gêm yn Stadiwm Wembley, gan olygu record mewn ffeinal dynion neu ferched ym Mhencampwriaethau'r Ewros. 

Sgoriodd Ella Toone ychydig o funudau ar ôl dod ymlaen fel eilydd gan roi Lloegr ar y blaen wedi 62 munud o chwarae. 

Wrth i'r gêm nesau at ei therfyn, fe sgoriodd Lina Magull i'r Almaen gan ei gwneud hi'n gêm gyfartal gyda deng munud i fynd. 

Gyda'r gêm wedi cyrraedd amser ychwanegol, sgoriodd Chloe Kelly i roi Lloegr yn ôl ar y blaen, ac roedd hynny yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth a'u teitl fel Pencampwyr Ewrop. 

Llun: Lionesses

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.