Cyhoeddi manylion cynllun ad-daliadau biliau ynni

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi manylion ei chynllun ad-daliadau biliau ynni, lle bydd miliynau o gartrefi ar draws Prydain yn derbyn £400 i helpu gyda chostau cynyddol.
Cafodd y cynllun ei gyflwyno ym mis Mehefin mewn ymdrech i leddfu effeithiau'r argyfwng costau byw, wrth i bobl ar draws y DU weld cynnydd sylweddol yn eu biliau ynni.
Mae'r Llywodraeth bellach wedi cadarnhau y bydd cartrefi yn derbyn y taliad ar hyd chwe mis, gan ddechrau ym mis Hydref eleni.
Fe fydd cartrefi sydd yn talu am eu biliau yn uniongyrchol yn derbyn gostyngiad awtomatig yn eu biliau misol.
Bydd y rhai sydd yn defnyddio mesurydd blaendal yn derbyn tocynnau ar ddechrau pob mis y bydd rhaid hawlio er mwyn derbyn y taliad.
Darllenwch fwy yma.