Dau gywydd croeso i'r Brifwyl yng Ngheredigion eleni
Dau gywydd croeso i'r Brifwyl yng Ngheredigion eleni
Mae dau Gywydd Croeso ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.
Gan fod yr Eisteddfod wedi cael ei gohirio am ddwy flynedd yn sgil y pandemig, mae dau gywydd eleni - un wedi ei ysgrifennu ar gyfer yr Eisteddfod yn 2020 gan Anwen Pierce, ac un arall ar gyfer yr ŵyl eleni gan Gwenallt Llwyd Ifan.
Fe wnaeth Anwen Pierce dderbyn y gwahoddiad i ysgrifennu'r Cywydd Croeso yn 2018, a'r neges oedd ceisio rhybuddio'r cyhoedd am yr heriau yng Ngheredigion, ac yng nghefn gwlad Cymru yn gyffredinol, yn yr oes sydd ohoni.
'Rhoi'r neges o rybudd'
"Fel 'da ni'n ymwybodol, ma'r sefyllfa yng nghefn gwlad o ran diboblogi, effaith newid hinsawdd, sefyllfa amaeth a sefyllfa'r iaith a'r economi, dydy pethe ddim yn ddelfrydol, a ma' cefn gwlad Ceredigion yn ei chael hi'n wael fel pob man arall felly 'o'n i isio ryw elfen sinistr a rhoi'r neges o rybudd bod rhaid i ni wneud rhywbeth cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
"'Da ni'n gallu bod yn ddi-hid ag yn ddi-fater ag o'n i ishe cyfle i hynny ond hefyd ar yr un pryd, ma' hi yn Gywydd Croeso ag o'n i ishe troi'r peth ar ei ben ag estyn croeso a deud bod y dyfodol yn ein dwylo ni i newid y sefyllfa."
Er bod Anwen yn gweld y cywydd yn gyfle i groesawu pobl i'r ardal, roedd hefyd yn gyfle i herio pobl.
"Yr ysbrydoliaeth o'n i ishe oedd i herio pobl ac i ddweud dewch o 'na, peidiwch a derbyn y drefn, mi fedrwn ni newid pethe, 'di hi ddim yn rhy hwyr.
"Falle bo' ni'n ddigalon a ddim yn gweld llawer o ddyfodol ond yn ein dwylo ni ma'r gallu i newid pethe."
Mae ysgrifennu y cywydd yn fraint bersonol i Anwen hefyd.
"Dwi yn bersonol yn 'sgwennu fel merch, fel merch sy'n barddoni yn gaeth, 'sdim llawer ohonom ni, ma ishe mwy, wedyn ma'n fwy o fraint oherwydd hynny bod 'na ferch wedi cael sgwennu'r Cywydd Croeso.
'Meddwl am gywydd cadarnhaol, positif'
Dywedodd bardd Cywydd Croeso 2022, Gwenallt Llwyd Ifan, bod effaith y pandemig a'r cyfnod clo wedi bod yn arwyddocaol wrth ysgrifennu.
"Roeddem ni'n dod allan o'r clo mawr ac felly o'n i'n trial meddwl am gywydd cadarnhaol, positif, odd yn edrych i'r dyfodol."
Mae'r ffaith bod yna ddau gywydd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion yn arwyddocaol hefyd yn ôl Gwenallt.
"Chi'n cal dwy wedd wahanol ar yr Eisteddfod ac mae e'n ryw fath o gronicl o'r hyn sydd 'di bod dros y ddwy, dair blynedd diwethaf, yn pontio'r gwactod yna sydd wedi bod gyda ni, yr ymdeimlad gwag yna bod dim gŵyl gyda ni a fawr ddim cymdeithasu, ac wedyn yn sydyn, y'n ni'n nôl yn ei chanol hi."
Yn ôl Gwenallt, er bod Cywyddau Croeso yn y gorffennol wedi bod yn "bethe reit draddodiadol", mae hi'n bwysig arbrofi wrth edrych ymlaen at y dyfodol.
"Gobeithio bo' fi wedi cadw'r ysbryd hwnnw, ond dod â ryw wedd fach newydd hefyd a dangos falle bod 'na ryw gychwyn newydd i ni."