Costau byw: McDonald's yn codi pris pryd o fwyd am y tro cyntaf mewn 14 mlynedd

Mae cwmni McDonald's yn y DU wedi codi pris byrgyr caws am y tro cyntaf mewn 14 mlynedd a hynny o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.
Fe fydd pris y byrgyr yn cynyddu 20c, o 99c i £1.19c.
Dywedodd y gadwyn fwyd fod angen codi pris yr pryd yn sgil costau uwch am gynhwysion.
Ychwanegodd prif weithredwr y cwmni yn y DU, Alistair Macrow, y bydd angen codi prisiau ar ragor o eitemau yn y dyfodol.
Daw hyn wedi i nifer o fwytai blaenllaw godi eu prisiau yn sgil costau byw uwch, gan gynnwys KFC, Nandos a Pret a Manger.
Darllenwch fwy yma.